Nos Iau, Ebrill 16eg, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da yn The Barn at Brynich yn Aberhonddu.
Roedd y noson yn gyfle arbennig i ddathlu a chydnabod 30 ac 20 mlynedd o wasanaeth a gwblhawyd gan bersonél gweithredol a chymorth. Wedi'i gyflwyno gan Brif Swyddog Tân GTACGC, Craig Flannery, roedd y seremoni'n cynnwys perfformiad gan Gôr Meibion Aberhonddu, cyflwyno medalau a gwobrau i bersonél GTACGC, a bwffe.
Yn cyhoeddi pob derbynnydd yn ystod y noson oedd Pennaeth Rhanbarth y Gogledd GTACGC, Y Rheolwr Grŵp Phil Morris, Dirprwy Bennaeth Rhanbarth y De, Y Rheolwr Gorsaf Richie Vaughan-Williams a Dirprwy Bennaeth Rhanbarth y Gorllewin, Y Rheolwr Gorsaf Emyr Jones. Yn cyflwyno'r medalau, y bathodynnau coffaol a'r gwobrau i bob derbynnydd oedd Dirprwy Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Phowys, Mr David Meyer.
Hefyd yn bresennol roedd Dirprwy Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, Mr Rowland Rees-Evans DL, Uchel Siryf Powys, Mr William Watkins, Uchel Siryf Dyfed, Mr Andrew Phillips a Chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Mr John Davies.