Ar ôl cael eu hanfon allan, aeth y timau a chymorth meddygol ati i arolygu’r lleoliad yn gyflym er mwyn asesu'r gwahanol strwythurau ac i flaenoriaethu tasgau’r ymateb. Bu’r timau’n gweithredu mewn mannau cyfyng, yn symud trwy amgylcheddau peryglus ac yn cynnal gweithrediadau cymhleth mewn adeiladau sydd wedi cwympo, gan gynnwys atgyfnerthu, codi a thorri. Roedd arbenigwyr achub â rhaffau hefyd yn gweithredu ar uchder ar draws strwythurau tal ac ansefydlog, gan ychwanegu haen arall o realaeth a her i'r ymarfer.
Roedd yr ymarfer hefyd yn arddangosiad o gydweithrediad rhyngwladol cryf, gan fod cynrychiolwyr o Weinyddiaeth Materion Mewnol Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Georgia hefyd yn bresennol. O’u cael yno, crëwyd cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer rhannu dysg, i feithrin partneriaeth ac i annog rhyngweithrededd rhwng timau rhyngwladol.
Roedd trinwyr a thimau cŵn chwilio ac achub yn rhan ganolog o’r ymarferiad, gan ddangos gallu a gwerth anhygoel asedau chwilio cŵn wrth ddod o hyd i bobl yn gyflym mewn adeiladau sydd wedi dymchwel.
Trwy ail-greu’r pwysau, y tempo a pha mor anrhagweladwy yw ymatebion i ddaeargrynfeydd go iawn, sicrhaodd yr ymarfer bod timau UK-ISAR yn barod i ymateb yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol pryd bynnag y bydd trychineb.
UK-ISAR yw ymateb swyddogol Llywodraeth y DU i drychinebau rhyngwladol, wedi'i ariannu a'i gefnogi gan FCDO (y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu).