13.10.2025

Llunio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru... Gyda'n gilydd!

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi lansio arolwg ar ei newydd wedd. Ei nod yw casglu barn gan drigolion a budd-ddeiliaid Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghylch sut mae Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 (CRhRC 2040) yn cael ei gyflawni.

Gan Rachel Kestin

Mae CRhRC 2040 yn cynnig amlinelliad o’n hymrwymiad i fynd i’r afael â’r risgiau, y bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau; ein cynlluniau ni i’w lliniaru; a sut fyddwn ni’n sicrhau bod ein hadnoddau a’n hasedau yn cael eu defnyddio’n effeithiol.

Os gwnewch chi dreulio 10 munud yn cwblhau ein harolwg, byddwch yn gwella ein dealltwriaeth o’r risgiau a’r heriau sy'n wynebu ein cymunedau ac yn gwella ein gallu i ymateb iddyn nhw. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.

Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg: Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040

Bydden ni wrth ein boddau pe byddech chi’n rhannu eich teimladau, ac os gwnewch chi byddwn yn rhoi’ch enw mewn raffl i ennill taleb Amazon gwerth £50! 

Mae’r holl ymatebion yn ddienw a byddan nhw’n cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. I wneud cais am iaith/fformat gwahanol, ffoniwch 0370 6060699.  

Diolch am eich cefnogaeth a'ch cyfraniad.

Erthygl Flaenorol