21.10.2024

Menywod yn y Gwasanaeth Tân Cymru 2024

Roedd Menywod yn y Gwasanaeth Tân yn ôl unwaith eto gyda'r rhaglen ddatblygu ar gyfer eleni. Cynhaliwyd digwyddiad rhanbarthol Cymru gyfan yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd, a dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad fel hyn gael ei gynnal yng Nghymru, a hynny gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Gan Lily Evans

Aeth 16 o fenywod o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r digwyddiad, 11 ohonynt yn staff gweithredol a 5 yn staff cymorth.

Nod y digwyddiad oedd ysbrydoli menywod i arddangos ac annog modelau rôl a chreu rhwydwaith cefnogol ar gyfer dilyniant a datblygiad yn y dyfodol.

Cynhaliwyd y digwyddiad dros ddau ddiwrnod ac roedd yn rhaglen llawn dop o weithdai ymarferol a rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a phrif siaradwyr yn ogystal â gweithgareddau ffitrwydd a llawer mwy.

Roedd hi hefyd yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o’r Menopos, ac roedd un o'r gweithdai rhyngweithiol yn taflu goleuni ar y Menopos yn y gweithle. Trafodwyd y nifer o opsiynau cymorth sydd ar gael i bersonél y Gwasanaeth Tân ar gyfer gwella iechyd a lles.

Roedd y digwyddiad cyfan yn llwyddiant ysgubol ac roedd pawb a fu’n bresennol wedi’i fwynhau. Rhoddodd gyfle ar gyfer twf a helpu i ddatblygu gyrfaoedd yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Cymru a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf