Yn ddiweddar, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) gyfanswm o 34 o sesiynau galw heibio er mwyn ymgysylltu â'r gymuned mewn amrywiaeth o wahanol safleoedd a lleoliadau dros chwe sir Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Diben y sesiynau galw heibio oedd casglu mewnbwn gwerthfawr gan breswylwyr a rhanddeiliaid, i helpu i nodi unrhyw faterion neu heriau y gallai'r Gwasanaeth eu hwynebu wrth gyflawni Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 (CRhRC 2040). Ochr yn ochr â'r sesiynau galw heibio, cynhaliodd GTACGC ddwy weminar ar-lein a gafodd eu harwain gan y Dirprwy Brif Swyddog Tân Iwan Cray, cyfarfodydd gydag aelodau Seneddol, aelodau o'r Senedd a Chynghorwyr Tref a Chymuned i gael cymaint o adborth â phosibl.
Bu’r sesiynau rhyngweithiol yn llwyddiant ysgubol gyda chyfanswm sylweddol o 721 o arolygon ‘Addasu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru…gyda’n gilydd’ yn cael eu cwblhau. Derbyniwyd 130 o arolygon ychwanegol ‘Dweud Eich Dweud’ gan ystod eang o randdeiliaid, a oedd hefyd yn rhoi eu barn a’u disgwyliadau am Wasanaeth Tân ac Achub modern. Roedd nifer fawr o ymwelwyr a llawer iawn o ymgysylltu ym Mhrifysgol Abertawe, a chroesawodd y sesiwn yng Ngorsaf Dân Crucywel dros 100 o bobl!
Dywedodd Amy Richmond-Jones, Rheolwr Cynllunio a Pherfformiad CRhRC: