16.10.2026

Sesiynau Profi Blancedi Trydan Am Ddim yn Sir Gaerfyrddin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd eleni.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd eleni.

Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi.  Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.

Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.

Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:

  • Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
  • Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
  • Gwifrau agored neu weladwy
  • Teclynnau rheoli, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
  • Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel

 

Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.

Bydd y sesiynau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cynnal rhwng 10:30am - 2:30pm yn y lleoliadau hyn:

  • Gorsaf Dân Llanymddyfri, SA20 0HY – Dydd Llun, 2 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Llanelli, SA15 3PF – Dydd Gwener, 6 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, SA38 9BA – Dydd Llun, 9 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Rhydaman, SA18 2LU – Dydd Mercher, 11 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Caerfyrddin , SA31 1SP – Dydd Gwener, 13 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Pont-iets - SA15 5TR – Dydd Llun, 16 Tachwedd

Erthygl Flaenorol