24.01.2025

Taith Feicio Elusennol ar draws y Gwasanaeth

Y gwanwyn hwn, bydd y Diffoddwr Tân, Bryn Davies, o Orsaf Dân Pontardawe yn ymgymryd â'r her anhygoel o feicio i bob Gorsaf Dân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Gan Lily Evans


Y gwanwyn hwn, bydd y Diffoddwr Tân, Bryn Davies, o Orsaf Dân Pontardawe yn ymgymryd â'r her anhygoel o feicio i bob Gorsaf Dân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Mae cyfanswm pellter ei daith ychydig yn llai na 1200km sy'n cynnwys dringo dros 16000 metr. Mae Bryn yn gobeithio cwblhau'r daith o fewn 4 diwrnod a bydd yn codi arian pwysig i Elusen y Diffoddwyr Tân. 

"Rwy'n cymryd rhan mewn taith feicio elusennol i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth helpu ein Diffoddwyr Tân gyda chymorth iechyd corfforol a meddyliol. Rwyf am chwarae fy rhan i helpu'r elusen ac felly, rwy'n gwneud her i feicio i bob Gorsaf Dân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru."

Bryn Davies - Diffoddwr Tân


Mae Elusen y Diffoddwyr Tân  yn darparu cymorth gydol oes arbenigol i aelodau presennol ac wedi ymddeol o gymuned Gwasanaeth Tân ac Achub y DU a’u teuluoedd. Os hoffech gyfrannu, gallwch ymweld â thudalen Go Fund Me Bryn. Gallwch hefyd olrhain y llwybr y bydd yn ei ddilyn trwy Ganolbarth a Gorllewin Cymru gan ddefnyddio Strava. 

Dymunwn y gorau i chi Bryn! 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf