Mae un o Ddiffoddwyr Tân Ystafell Reoli ar y Cyd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach yn un o Bencampwyr Cymru.
Yn ddiweddar, daeth y diffoddwr tân Chance Morgan i’r brig yn adran pwysau ysgafn Meistri’r Belt Brown 2 (76kg) cystadleuaeth All-Stars Brazilian Jiu-Jitsu (BJJ) Cymru, a gynhaliwyd yn Nhŷ Chwaraeon Caerdydd.
Daw’r fuddugoliaeth yn sgil newid mawr ym mywyd Chance, ar ôl cyfnod heriol a’i rhwystrodd rhag hyfforddi a chystadlu. Roedd Chance wedi ail-afael yn y gamp yn gynharach eleni, gan ennill aur yn y gystadleuaeth Pro Sport Grappling yng Nghasnewydd ym mis Chwefror, ond ar ôl cael anaf sylweddol i’r ligament croesffurf blaen (ACL) bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w gynlluniau a threulio misoedd yn adsefydlu.