Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LlosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
Gweledigaeth y Gwasanaeth yw bod yn sefydliad o safon fyd-eang, ond ni fydd hyn yn digwydd trwy hap a damwain, ac mae’n galw am osod amcanion uchelgeisiol. Felly, rydym wedi mabwysiadu amrywiaeth eang o brosesau rheoli, sy’n cwmpasu graddau llawn gweithgareddau’r sefydliad, er mwyn ein helpu i gyflawni ein Gweledigaeth.