Cynllun Strategol 2022-2027

Mae ein Cynllun Strategol 2022-2026 yn tynnu sylw at ein gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd ac ymrwymiadau. Bydd y Cynllun hwn a'n hymrwymiadau yn cael eu cyflawni trwy'r Amcanion Gwella a Lles a nodir yn ein Cynllun Gwella Busnes Blynyddol.



Mae'n bleser gennym gyflwyno ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022-2027, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sef “bod yn arweinydd byd o ran Ymateb i Argyfyngau a Diogelwch Cymunedol”.

Roger Thomas, Prif Swyddog Tân

 Roger Thomas - Chief Fire Officer


Ein Gweledigaeth



I fod yn Arweinydd Byd mewn Ymateb Brys a Diogelwch Cymunedol.




Ein Cenhadaeth



Ymgysylltu, cysylltu, datblygu ac ysbrydoli pobl i ddarparu gwasanaeth rhagorol.




Ein Gwerthoedd



Gwneud y peth iawn.
Trin pobl â pharch.
Perfformio gyda rhagoriaeth.




Ein Hymrwymiadau




Ymrwymiad 1



Rydym yn ymrwymedig i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu medrus iawn.




Ymrwymiad 2



Rydym yn ymrwymedig i gynnal iechyd, llesiant a ffyniant y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.




Ymrwymiad 3



Rydym yn ymrwymedig i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.




Ymrwymiad 4



Rydym yn ymrwymedig i wella'r ffordd yr ydym yn gweithio, trwy ddysgu sefydliadol.



Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015



Rydym yn ymrwymedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac rydym wedi coleddu ein dyletswyddau a'n rôl o fod yn bartner statudol ledled ein chwe Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Rydym yn deall diben a nod y Ddeddf ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn ystyried effaith hirdymor ein penderfyniadau ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.



Cynllun Strategol

Mae Cynllun Strategol 2022-27 yn amlinellu ein Hymrwymiadau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a ddatblygwyd gennym yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac a ymgorfforwyd yn y pum ffordd o weithio.v

Ein Hymrwymiadau

Datblygwyd ein Hymrwymiadau trwy gyfres o weithdai gyda'n staff, Aelodau Etholedig a Chyrff Cynrychiadol.

Yn y Cynllun hwn trwyddo draw, rydym yn amlygu'r modd y mae ein Hymrwymiadau yn cyfrannu at y saith Nod Llesiant, gan ddangos sut y mae pob un yn ein helpu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Felly, wrth i ni wneud penderfyniadau, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y gall y penderfyniadau ei chael ar y bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru 'nawr ac yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cofio rhoi ystyriaeth briodol i'r amrywiaeth gyfoethog o bobl sydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn parhau i gydweithredu ag eraill i helpu'r Awdurdod i gyflawni ei Amcanion ac, i'r gwrthwyneb, i helpu eraill i gyflawni eu hamcanion nhw.



Egwyddor Datblygu Cynaliadwy



Pwysigrwydd cydbwyso anghenion byrdymor â'r angen i ddiogelu'r gallu i fodloni anghenion hirdymor hefyd.

Beth yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn?

Byddwn yn parhau i ystyried tueddiadau hirdymor a dadansoddi ein gweithredoedd, a hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn rhagweithiol yn hytrach nag yn ymatebol, gan felly ddiwallu anghenion ein cymunedau a'n rhanddeiliaid yn well trwy sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel â phosibl, a pheidio â thanseilio anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymgorffori syniadau hirdymor yn ein harferion busnes a'n Hamcanion Gwella a Llesiant, a byddwn yn parhau i fabwysiadu dull o graffu ar y gorwel yn rhan o'n prosesau cynllunio. Wrth bennu ein Hamcanion Gwella a Llesiant, rydym wedi sicrhau ein bod yn monitro tueddiadau yn y dyfodol a heriau hirdymor a fydd yn cael effaith andwyol ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Byddwn yn parhau i addasu ac arallgyfeirio ein gweithgareddau i fodloni anghenion ein cymunedau yn well, yn ogystal â gwella'r ffordd yr ydym yn diwallu anghenion y bobl sy'n gweithio ac yn byw yn ein cymunedau ac sy'n ymweld â nhw, er mwyn sicrhau eu bod yn fwy diogel.

Atal problemau rhag digwydd neu waethygu.

Beth yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn?

Mae atal, amddiffyn ac ymyrraeth gynnar yn parhau'n flaenoriaeth i ni, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu mor ddiogel â phosibl, a hynny trwy adolygu ac addasu ein gwasanaethau ymyrraeth yn barhaus. Byddwn yn parhau â'n hymagwedd ragweithiol, integredig a chydweithredol at y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, a hynny trwy weithio'n agos gyda sefydliadau partner cyfredol, ynghyd â rhai newydd, i ddarparu negeseuon diogelwch wedi'u teilwra, gan sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf ar ein cymunedau. Mae ein ffocws ar gyfer atal yn canolbwyntio ar atal problemau rhag digwydd neu waethygu trwy sicrhau ein bod yn cynnal ymyrraeth gynnar a bod ein cymunedau yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl.

Ystyried y modd y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar ei amcanion, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Beth yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn?

Rydym yn defnyddio dull integredig wrth ddatblygu ein Hymrwymiadau, a hynny gan ein bod o'r farn y bydd gweithio mewn ffordd fwy integredig yn ein galluogi i ddatrys problemau mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon. Trwy ymgymryd â dull ar y cyd i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd, a thrwy gydweithredu â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, byddwn yn lleihau'r posibilrwydd o ddyblygu ymdrech ledled sefydliadau sector cyhoeddus ac, at hynny, yn rhannu adnoddau, dysg a gwybodaeth er budd ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

Gweithredu mewn cydweithrediad ag unrhyw unigolyn arall (neu â rhannau gwahanol o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.

Beth yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn?

Mae cydweithredu â’n partneriaid yn allweddol bwysig i ni yn y Gwasanaeth Tân ac Achub. Rydym yn cydweithredu â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn sawl ffordd, ac wedi mabwysiadu dull “Cymru Gyfan” mewn sawl maes. Mae'r dull cydweithredol hwn hefyd wedi nodi'r dulliau mwyaf costeffeithiol ac effeithlon ledled y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yn achos nifer o bynciau. Rydym yn deall bod gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn cynyddu effaith ein negeseuon diogelwch ar ein cymunedau ac yn darparu negeseuon diogelwch trwy ddull ar y cyd. Felly, byddwn yn parhau i adeiladu ar berthnasoedd sy’n bodoli ac i chwilio am gyfleoedd newydd i feithrin partneriaethau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’n hasedau.

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu.

Beth yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn?

Rydym wedi ymgynghori'n eang â'n rhanddeiliaid, ein sefydliadau partner a'r cyhoedd. Byddwn yn ymgysylltu'n llawn â chymunedau lleol trwy ddigwyddiadau ac ymgyngoriadau, gan eu hannog i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Bydd hyn yn annog deialog ddwyffordd a hefyd yn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud ynghylch y ffordd yr ydym yn cyflawni ein Hymrwymiadau. Mae annog y cyhoedd i gyfranogi a chymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau yn bwysig iawn i ni.



Achieving the Seven Well-being Goals



Bydd ein Hymrwymiadau yn helpu i gyflawni'r saith Nod Llesiant mewn sawl ffordd, ac rydym wedi sicrhau bod y camau gweithredu ar gyfer ein Hamcanion Gwella a Llesiant wedi'u datblygu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.



Bydd ein cyfraniad at gyflawni Cymru Lewyrchus yn cynnwys darparu lefel uwch o wybodaeth a chymorth gan bob un o'n cysylltiadau wrth i ni ymweld â phobl yn ein cymunedau i sicrhau eu bod yn ddiogel yn eu cartrefi. Byddwn hefyd yn cyfrannu at gyflawni Cymru Lewyrchus trwy adeiladu ar berthnasoedd sydd eisoes yn bodoli a chwilio am gyfleoedd newydd i sicrhau'r buddion gorau ar gyfer y gymuned, gwella ein cyfraniad at yr economi leol a lleihau'r costau i gymdeithas.

Bydd cyfraniadau at Gymru Gydnerth yn cael eu cyflawni trwy ystyried technoleg newydd ac arloesedd yn ein Gwasanaeth. Byddwn hefyd yn deall ein heffaith ar yr amgylchedd yn well er mwyn sicrhau gostyngiad yn ein hôl troed carbon, gan barhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.

Byddwn yn cyflawni Cymru Iachach trwy gynyddu cysylltedd a digideiddio, a fydd yn helpu'r Gwasanaeth i ddarparu ein gwasanaeth brys a'n gwasanaeth diogelwch cymunedol, fel ei gilydd. Bydd hyn yn sicrhau y byddwn yn gallu darparu cyngor a chyflawni ein rhaglenni ymyrraeth er mwyn helpu unigolion i wella eu ffordd o fyw.

Byddwn yn cyflawni'r nod o gyfrannu at Gymru o Gymunedau Cydlynus trwy wella ein datrysiadau digidol a'n technolegau gwybodaeth a chyfathrebu blaengar, a hynny trwy gyfrannu at gynyddu cysylltedd a darparu gwasanaethau i'r cyhoedd.

Er mwyn helpu i greu Cymru sy’n fwy Cyfartal, byddwn yn blaenoriaethu ein hymyraethau ac yn eu hanelu at yr unigolion hynny sydd fwyaf agored i niwed er mwyn gwella eu hamgylchiadau a rhoi cyngor iddynt i'w galluogi i wella eu ffordd o fyw.

Byddwn yn cyfrannu at Gymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu trwy barhau i annog a hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn ardal ein Gwasanaeth. Lle bo hynny'n bosibl, byddwn yn hyrwyddo mynediad at ein gwasanaethau trwy ddefnyddio'r Gymraeg, a hynny er mwyn sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn gallu cyfathrebu â ni trwy eu hiaith ddewisol. Byddwn hefyd yn parhau i annog ein haelodau staff i ddefnyddio eu hiaith ddewisol yn y gweithle, ac yn darparu cyfleoedd i'r staff sy'n dymuno dysgu'r Gymraeg.

Byddwn yn dylanwadu ar y broses o gyflawni Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang trwy barhau i wneud newidiadau sylweddol i leihau cyfanswm y papur a ddefnyddir yn ein gweithgareddau, a hynny trwy annog pobl i gyflwyno gohebiaeth a dogfennau ar ffurf electronig.



Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus



Fel y nodir yn y Ddeddf, mae’n rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ddefnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy i gyfrannu cymaint â phosibl at gyflawni’r saith nod llesiant cenedlaethol, a hynny trwy fynd i’r afael ag anghenion llesiant penodol yr ardal. A ninnau'n bartner statudol, rydym wedi coleddu'r egwyddor hon ac yn ymrwymedig yn llwyr i gyfrannu i'r eithaf at gyflawni'r nodau llesiant, ac, ers hynny, rydym wedi gweithredu'r ethos o sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb danseilio gallu cenedlaethau'r dyfodol yn ein harferion busnes.

Mae arwyddocâd yr Amcanion sydd yng Nghynlluniau Llesiant pob un o'r chwe Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn cael ei adlewyrchu yn Ymrwymiadau ein Gwasanaeth, sy'n sicrhau bod gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer ein cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth.



Ffyrdd Newydd o Weithio



Yn ogystal ag ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth lunio’r cynllun hwn, rydym hefyd wedi cynnwys nifer o ffyrdd newydd o weithio wrth redeg y sefydliad o ddydd i ddydd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dylanwadu'n fawr ar ‘edefyn aur’ y Gwasanaeth. O'n cynlluniau datblygu unigol a'n strategaethau adrannol, i'n Cynllun Strategol ar gyfer 2022-2027 a Cynllun Gwella Busnes Blynyddol 2022-23, mae ethos y Ddeddf ym mlaen ein meddwl. Boed hynny wrth i ni ffurfio partneriaethau newydd; mabwysiadu dulliau sganio’r gorwel yn rhan o’n proses o gynllunio ar gyfer y dyfodol; neu gynnwys fframwaith prosiectau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth i ni gyflawni ein prosiectau corfforaethol ein hunain, gallwch fod yn sicr y bydd anghenion y presennol yn cael eu diwallu, a hynny heb beryglu cenedlaethau'r dyfodol.



Datganiad am Safonau'r Gymraeg



Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau ac arwyddocâd ein treftadaeth ddiwylliannol. Yn hynny o beth, rydym yn ymrwymedig i sicrhau fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gydradd wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn amlinellu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gosod Safonau'r Gymraeg ar gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, a'u monitro. Mae gennym ni, y Gwasanaeth, ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â'r set o Safonau a osodwyd ar yr Awdurdod gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2016. Mae ein hysbysiad cydymffurfio, ein prosesau mewnol ar gyfer gweithredu a monitro, a'r adroddiadau blynyddol ar gael ar tudalen Safonau'r Gymraeg.

Rydym ni, yr Awdurdod, wedi ymateb yn gadarnhaol i Safonau'r Gymraeg, gan ddefnyddio'r Safonau i sicrhau bod ein hymrwymiad a'n dyhead i ddarparu gwasanaethau mewn modd teg i bob ardal yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu datblygu ymhellach. Rydym hefyd yn cydnabod dyletswydd yr Awdurdod i'n staff ein hunain, y mae'r mwyafrif ohonynt yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn adlewyrchu gwneuthuriad ieithyddol a diwylliannol eu cymunedau eu hunain.

Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio ymhellach â'n partneriaid a gwasanaethau tân ac achub eraill ledled Cymru i hyrwyddo, annog a chefnogi defnydd ehangach o'r Gymraeg yn ein gweithleoedd i ddiwallu anghenion ieithyddol unigol, ac i ddarparu dewis iaith go iawn i'n cymunedau.



Datganiad am y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol



Yn sgil cyflwyno'r ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a ddaeth i rym ar 31 Mawrth 2021, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried y modd y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol, wrth iddynt wneud penderfyniadau strategol megis penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion.

Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer y rheiny sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Nod y Gwasanaeth yw cefnogi hyn trwy sicrhau bod pawb sy'n gyfrifol am benderfyniadau strategol yn gwneud y pethau canlynol:

  • Ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl trwy ymgynghori ac ymgysylltu.
  • Deall barn ac anghenion y rhai sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Croesawu her a chraffu.
  • Sbarduno newid yn y ffordd y gwneir penderfyniadau a'r ffordd y mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithredu.

Rydym wedi cychwyn ar raglen ragweithiol o rannu gwybodaeth a hyfforddi mewn perthynas â'r Ddyletswydd, a byddwn yn parhau i sicrhau bod ystyriaeth ddyledus yn cael ei rhoi wrth benderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion.



Mae eich barn yn bwysig



Rydym yn cydnabod bod gwrando ar eich barn yn hollbwysig os yw'r Gwasanaeth am barhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon a gwell i'ch cadw chi a'ch teuluoedd yn ddiogel. Rydym felly yn eich gwahodd i roi eich barn ar ein cynlluniau er mwyn ein helpu i barhau i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i’n cymunedau lleol. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gyswllt neu e-bost haveyoursay@mawwfire.gov.uk