A yw eich gwisg mewn perygl o fynd ar dân?

A ydych wedi ystyried y peryglon sy'n gysylltiedig â gwisgoedd Calan Gaeaf a thân? Mae'n hanfodol bwysig bod gan wisgoedd y marc CE ar y label. Er hynny, fel pob dilledyn, gall gwisgoedd fynd ar dân yn hawdd. | ![]() |
Mae yna risgiau ychwanegol yn bodoli oherwydd y defnydd traddodiadol o ganhwyllau yn ystod Calan Gaeaf, sy'n golygu y gall gwisg gynnau'n hawdd.
Rydym yn argymell nad ydych yn defnyddio canhwyllau go iawn, a'ch bod yn eu cyfnewid am ganhwyllau LED di-fflam a weithredir gan fatri. Gallant ddal i gyfleu'r effaith iasol, ac mae ganddynt fanteision eraill o gymharu â chanhwyllau arferol, megis gallu eu defnyddio y tu allan heb ofni y byddant yn diffodd.
Pwysig: Dylai oedolion oruchwylio plant yn fanwl pan fydd canhwyllau'n cael eu defnyddio. Ystyriwch rannau o'r gwisgoedd sy'n hongian yn rhydd a'r modd y mae hyn yn cynyddu'r risg o dân.
Cofiwch bob amser – os bydd eich dillad yn mynd ar dân, dylech – STOPIO, DISGYN a RHOLIO.
Peryglon fflamau noeth

Byddem yn annog y defnydd o ganhwyllau LED di-fflam yn hytrach na chanhwyllau go iawn, a fydd yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â Chalan Gaeaf yn sylweddol.
Mae canhwyllau'n fygythiad gwirioneddol a difrifol yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn. Gyda'r defnydd cynyddol o addurniadau a chanhwyllau, mae'r risg o dân yn cynyddu'n ddramatig, ac mae'n bwysig iawn ystyried y peryglon hyn. Gall canhwyllau achosi i ddodrefn a gwrthrychau crog gynnau’n hawdd.
Os byddwch yn defnyddio canhwyllau, sicrhewch eu bod ymhell oddi wrth wrthrychau eraill, a pheidiwch byth â'u gadael i losgi heb fod rhywun yn cadw golwg arnynt.
Defnyddir canhwyllau mewn pwmpenni, yn draddodiadol, ond mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â hyn yn uchel, yn enwedig pan fyddwch yn ychwanegu gwisgoedd sy'n hongian yn rhydd, sydd, yn aml, mewn perygl mawr o gynnau oherwydd y defnydd a ddefnyddir.
Gellir mwynhau Calan Gaeaf heb ganhwyllau gan fod yna sawl dewis amgen diogel a all greu'r un effaith.
Ystyriwch ddefnyddio canhwyllau LED di-fflam a weithredir gan fatri y Calan Gaeaf hwn. Cofiwch fod yna fanteision ychwanegol, megis gallu eu defnyddio y tu allan heb iddynt ddiffodd a dal i greu'r effaith iasol a ddymunir!
Cadw allanfeydd yn glir a heb rwystrau

Er ein bod am i bobl fwynhau gosod addurniadau arswydus yn eu cartrefi, rydym am sicrhau bod pawb yn cadw eu hallanfeydd yn glir a heb eu rhwystro fel y gallwch chi a'ch teulu adael eich cartref yn hawdd os bydd tân.
Sicrhewch nad oes gwrthrychau o gwmpas a allai beri chi faglu, a bod yr allanfeydd yn glir ac nad ydynt wedi eu rhwystro.