Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn argymell y dylai pobl fynd i arddangosfa tân gwyllt wedi'i threfnu, fodd bynnag, rydym yn deall y bydd rhai pobl eisiau cael eu harddangosfa tân gwyllt preifat eu hunain, ac er ein bod am i bobl fwynhau eu hunain, gofynnwn i bawb feddwl sut y gallant gadw Cymru'n Ddiogel y Noson Tân Gwyllt hon.
A oes angen coelcerth mewn gwirionedd?
Mae'n llawer mwy hwylus heb goelcerth.
Edrychwch yn ofalus iawn i sicrhau nad oes yr un anifail (neu blentyn ifanc hyd yn oed) yn cuddio y tu mewn i'r goelcerth. Peidiwch â'i chynnau tan ar ôl i'r holl dân gwyllt gael eu cynnau. Cadwch bawb bellter diogel i ffwrdd, a pheidiwch â chaniatáu i unrhyw un daflu unrhyw beth arni.
Trwy ddilyn yr awgrymiadau syml canlynol, gallwch sicrhau'r goelcerth fwyaf diogel posibl.
Cliciwch yma ar gyfer ein canllawiau ar sut i gadw'n ddiogel gyda thân gwyllt.
Ydy'ch coelcerth yn ddiogel?
Bob blwyddyn rydym yn gweld coelcerthi peryglus yn cael eu hadeiladu. Gall y coelcerthi hyn gynnwys eitemau sy'n wenwynig ac eitemau eraill sy'n peri perygl i wylwyr, p'un a yw'n risg o ffrwydrad neu arall. Nid yn unig y mae'r coelcerthi hyn yn berygl i'r cyhoedd, ond gall coelcerthi sydd wedi'u hadeiladu'n wael effeithio'n wael ar yr amgylchedd a byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr heddlu a awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau'n cael eu cadw'n ddiogel.