Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn atgoffa pawb i fod yn ofalus a dod yn gyfarwydd â’r 5 Angheuol.
Mae mis Medi eleni yn fis ymwybyddiaeth o’r 5 Angheuol, ac mae tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru yn atgoffa defnyddwyr y ffyrdd o'r 5 Angheuol, sef y pum prif beth sy’n achosi gwrthdrawiadau traffig ffyrdd ac anafiadau yng Nghymru.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cadw at reolau'r ffordd ond yn anffodus mae lleiafrif bach yn dewis peryglu eu hunain, eu teuluoedd a defnyddwyr ffyrdd diniwed.
Ers Ionawr 2024 mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynychu 465 o wrthdrawiadau traffig ffyrdd. Ein nod yw lleihau'r ffigurau hyn ac atal damweiniau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd.
Cadwch lygad am negeseuon diogelwch ar ein cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Medi neu am fwy o wybodaeth am sut i gadw'n ddiogel ar y ffordd, ewch: Ar y Ffordd (mawwfire.gov.uk)