Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Diogelwch Simneiau, o 2 – 8 Medi 2024.
Mae tanau simneiau yn aml yn cynnau oherwydd bod huddygl wedi cronni a gallan nhw achosi difrod mawr ac mewn rhai achosion, perygl i fywyd. Mae modd atal y rhan fwyaf o danau simneiau a bydd archwilio a glanhau ffliwiau simneiau’n gyson yn helpu i atal tanau ynddyn nhw.
Mae camau syml y gellir eu cymryd i leihau'n fawr y siawns o dân yn cychwyn mewn simnai:
- Ysgubo’r simnai cyn ei defnyddio os nad yw wedi’i defnyddio ers peth amser.
- Gwneud yn siŵr bod gard tân o flaen y tân bob amser.
- Diffodd y tân cyn mynd i'r gwely neu cyn gadael y tŷ.
- Peidiwch byth â defnyddio petrol neu baraffin i gynnau tân.
Mae ysgubo a chynnal a chadw cyson nid yn unig yn lleihau'r tebygolrwydd o dân simnai, ond gall hefyd osgoi croniad peryglus o nwy carbon monocsid. Mae Carbon Monocsid yn nwy hynod o wenwynig sydd heb unrhyw liw, blas nac arogl. Gall offer llosgi tanwydd fel stofiau, tanau, boeleri a gwresogyddion dŵr gynhyrchu carbon monocsid os ydyn nhw wedi'u gosod yn anghywir, wedi’u trwsio'n wael neu mewn cyflwr gwael, neu os yw ffliwiau, simneiau neu fentiau wedi’u rhwystro.
Mae larymau mwg a charbon monocsid sy'n cael eu cynnal a’u cadw ac yn gweithio'n iawn yn achub bywydau.
Dywedodd Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch yn y Cartref: