27.10.2026

Arwyr mewn Clustffonau: Dathlu'r bobl y tu ôl i'n hymateb

Wrth i ni nodi Wythnos Ryngwladol yr Ystafell Reoli, rydym yn dathlu'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig y tu ôl i bob ymateb brys: ein cydweithwyr yn yr Ystafell Cyd-reoli, yr Arwyr gwirioneddol mewn Clustffonau.

Gan Rachel Kestin



Wrth i ni nodi Wythnos Ryngwladol yr Ystafell Reoli, rydym yn dathlu'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig y tu ôl i bob ymateb brys: ein cydweithwyr yn yr Ystafell Cyd-reoli, yr Arwyr gwirioneddol mewn Clustffonau.

Gan weithredu ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r Ystafell Cyd-reoli yn darparu'r cyswllt hanfodol rhwng cymunedau mewn angen ac ymatebwyr brys. Mae pob galwad frys a dderbynnir, pob peiriant a ddanfonir a phob digwyddiad a reolir yn dechrau gydag arbenigedd a phroffesiynoldeb ein timau ystafell reoli.

Cyflwynodd yr haf hwn heriau gweithredol sylweddol, gyda digwyddiadau tanau gwyllt yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Wrth i ddiffoddwyr tân weithio'n ddiflino ar safle'r digwyddiad, cynhaliodd cydweithwyr Cyd-reoli Tân cyflenwad gweithredol ledled De a Chanolbarth a Gorllewin Cymru drwy gydol cyfnodau o alw parhaus. Gweithiodd y tîm o gwmpas bob awr o’r dydd a’r nos y tu ôl i'r llenni, gan reoli galwadau, cydlynu adnoddau a chefnogi criwiau gweithredol drwy gydol digwyddiadau hirfaith a chymhleth.

O 19eg Gorffennaf i 1af Medi, wnaeth yr Ystafell Cyd-reoli Tân y canlynol:

  • Derbyn 8,466 o alwadau brys, gyda brig o 1,006 o alwadau ar y 13eg o Awst yn unig
  • Danfon 1,232 o gerbydau tân ac adnoddau arbenigol rhwng yr 11eg o Awst a’r 1af o Fedi

Roedd eu gallu i aros yn ddigynnwrf dan bwysau, asesu sefyllfaoedd oedd yn newid yn gyflym, a chydlynu adnoddau'n effeithiol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod cymunedau'n cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt, pan oedd ei angen fwyaf.

Beth mae ein cydweithwyr yn ei ddweud:

Rhannodd ein cydweithwyr yn y Ganolfan Reoli Tân ar y Cyd eu profiadau o weithio yn ystod y tanau gwyllt yn haf eleni.




Walker, Diffoddwr Tân yn Ystafell Reoli GTAGCC

Dechreuais i weithio yn yr Adran Reoli Tân ym mis Chwefror, ac ymunais â'r tîm gweithredol ym mis Mai ar ôl cwblhau fy asesiadau. Roeddwn i'n dal yn gymharol newydd i'r rôl, felly allai ddim byd wedi fy mharatoi'n llawn ar gyfer tymor y tanau gwyllt.

Yr hyn sy'n sefyll allan fwyaf i mi yw'r nifer fawr o alwadau a ddaeth i'r ystafell reoli; gydag uchafbwynt o 1,006 o alwadau mewn un diwrnod. Gan fod peiriannau tân yn delio â digwyddiadau ledled y Gwasanaeth, roedd galwadau'n cyrraedd o hyd tra roeddem yn aros i adnoddau ddod ar gael. Roedd rhywbeth yn digwydd o hyd, ac roedd cadw golwg ar bopeth yn ystod cyfnod mor brysur yn her wirioneddol.

Un peth y byddaf bob amser yn ei gofio yw sut yr oedd pawb yn gweithio gyda'i gilydd. Cefais fy ngalw yn ôl i ddyletswydd ar sawl achlysur i helpu i reoli nifer yr alwadau a'r digwyddiadau. Roedd y gefnogaeth gan gydweithwyr o fewn yr Adran Reoli a gwylfeydd eraill yn anhygoel, a gwnaeth pawb a phopeth o fewn eu gallu i helpu ei gilydd.

Roedd hefyd yn wych gweld cefnogaeth yn dod gan wasanaethau tân ac achub eraill ledled y DU. Dangosodd hyn barodrwydd y gymuned tân ac achub ehangach i ddod at ei gilydd i gefnogi'i gilydd ar adeg mor heriol .

Gan mai am ychydig o fisoedd yn unig yr oeddwn i wedi bod yn yr Adran Reoli cyn dechrau tymor y tanau gwyllt, roedd yn brofiad dysgu anhygoel. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth wirioneddol i mi o'r pwysau sy'n gysylltiedig â'r rôl, a phwysigrwydd gweithio fel tîm. Rwy'n falch o fod yn rhan o'r tîm bryd hynny a chael gweld dros fy hun yr ymroddiad a ddangoswyd gan bawb ar adeg dyngedfennol.



Rheolwr Gwylfa Hughes GTADC  

Mae gyda ni dri derbynnydd galwadau a dau weithredwr radio sy’n delio â galwadau tân, negeseuon radio, negeseuon adfer a cheisiadau am gymorth. Ar adegau, rhwng De a Chanolbarth Cymru, roeddem yn mynychu 30 o ddigwyddiadau, gyda mwy na 50 yn aros i gael eu hasesu ar gyfer ymateb.

Mae'r llinellau tân yn dal i ganu.

Os bydd injan ar gael mae hi’n ymddangos yn wyn, bydd yn dangos yn ddu os nad ydynt ar gael a choch os ydy hi wedi cael ei dyrannnu. Roedd cymaint o goch a du bob amser felly brawychus o brin oedd y peiriannau oedd ar gael i ddarparu cyflenwad ar gyfer tân ar draws GTADC. Doedd dim criwiau cymorth gyda ni, heblaw am y wylfa nesaf i ddod ar ddyletswydd.

Mae'r llinellau tân yn dal i ganu.

Mewn 22 mlynedd o dymhorau tanau glaswellt, mae staff bob amser wedi ymateb yn dda wrth gael eu hadalw. Eleni, roedd gwylfeydd ar eu gliniau gyda blinder.

Rywsut, fe lwyddom i ateb y rhan fwyaf o alwadau, danfon adnoddau, rheoli'r radio, trefnu cymorth a lluniaeth, a dal i  fynd, gan wybod y byddai’r un peth yn digwydd y diwrnod wedyn.

Fe wnaethom ni ddal i fynd.




Dywedodd Natalie Pearce, Rheolwr Grŵp Cyd-reoli Tân:

"Yn ystod y 28 o flynyddoedd y bues i’n gweithio gyda rheoli tân, rwyf wedi profi cyfnodau prysur dros ben, ond roedd yr haf hwn ymhlith y rhai mwyaf heriol. "Roedd nifer y galwadau, nifer y digwyddiadau mawr, a’r pwysau parhaus ar ein timau yn eithriadol. Cafwyd diwrnodau lle’r oedd galwadau’n dod i mewn bron yn ddi-dor, wrth i gydweithwyr hefyd reoli adnoddau, cefnogi diffoddwyr tân a chadw golwg ar ddigwyddiadau ar draws y ddwy ardal wasanaeth. "Bu’n rhaid i ni addasu’n gyflym, gan ddod â chydweithwyr o rolau eraill i mewn, defnyddio pob desg oedd ar gael a gweithio oriau hir er mwyn cynnal yr ymateb. Rwy’n falch dros ben o’r ffordd y bu pawb yn gweithio gyda’i gilydd, gan gynnwys y gefnogaeth a gawsom gan gydweithwyr ar draws y ddau wasanaeth a’n partneriaid gwasanaethau brys."

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf