27.10.2026

Ymarfer Aml-asiantaeth Realistig yn Cefnogi Datblygiad Diffoddwyr Tân

Yn ddiweddar, cymerodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru ran mewn ymarfer hyfforddi aml-asiantaeth ar Ddiffodd Tân mewn Ardaloedd Adeiledig (FIBUA).  Nod yr ymarfer oedd cryfhau sgiliau gweithredol, hybu datblygiad arweinyddiaeth, a gwella gwaith ar y cyd rhwng asiantaethau.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, cymerodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarfer hyfforddi aml-asiantaeth ar Ddiffodd Tân mewn Ardaloedd Adeiledig (FIBUA).  Nod yr ymarfer oedd cryfhau sgiliau gweithredol, hybu datblygiad arweinyddiaeth, a gwella gwaith ar y cyd rhwng asiantaethau.





Daeth yr ymarfer penwythnos o hyd â phersonél o GTACGC, Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru at ei gilydd, gan roi cyfle gwerthfawr i weithio ochr yn ochr ag asiantaethau partner mewn cyfres o senarios brys realistig.

Drwy gydol yr ymarfer, ymatebodd criwiau i amrywiaeth o ddigwyddiadau efelychiadol, gan gynnwys gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, tanau eiddo yn cynnwys nifer o gleifion yn sownd mewn adeiladau ac argyfyngau meddygol.  Cynlluniwyd y senarios i efelychu'r pwysau a'r heriau a wynebir yn ystod argyfyngau bywyd go iawn, gan ganiatáu i gyfranogwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau gwneud penderfyniadau, cyfathrebu a rheoli digwyddiadau mewn amgylchedd diogel a rheoledig.

Yn ogystal â rhoi cyfle i Ddiffoddwyr Tân ddatblygu a chynnal eu cymhwysedd gweithredol, roedd yr ymarfer hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol y Swyddogion â Gofal a’r arsylwyr.  Trwy ymgymryd â rolau arwain ac asesu, llwyddodd y cyfranogwyr i gryfhau eu galluoedd rheoli, ennill profiad gwerthfawr, a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus.

Cymerodd criwiau GTACGC o Orsafoedd Tân Treforys, Y Tymbl, Llanfair-ym-Muallt, Llanandras, Abercraf, Gorseinon a Chydweli ran yn yr ymarfer.  Hefyd yn mynychu dros y penwythnos oedd Prif Swyddog Tân Cynorthwyol GTACGC, Sean Lloyd.

Mae'r hyfforddiant hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymarferion rheolaidd, realistig wrth sicrhau bod ymatebwyr brys yn parhau i fod yn barod i amddiffyn a gwasanaethu eu cymunedau.  Drwy gydweithio'n agos ag asiantaethau partner a phrofi eu sgiliau mewn amgylcheddau digwyddiadau cymhleth, mae criwiau mewn gwell sefyllfa i ymateb yn effeithiol pan fydd argyfyngau go iawn yn digwydd.





Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Carl Williams, trefnydd yr ymarfer:

“Ym mhob cam o’ch gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae datblygiad yn bwysig.

P’un a ydych yn Ddiffoddwr Tân sy’n ceisio meithrin cymhwysedd gweithredol, neu’n Rheolwr Criw neu’n Rheolwr Gwylfa sy’n paratoi ar gyfer dyrchafiad, mae FIBUA yn cynnig cyfle i ddysgu, datblygu a rhagori.

O ganlyniad i amgylcheddau hyfforddi realistig, ymarferion ar y cyd a dysgu cydweithredol, gall staff wella eu sgiliau gweithredol, eu gallu arwain a’u hyder proffesiynol, wrth weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o asiantaethau partner.”



Dangosodd yr ymarfer ymrwymiad pawb a oedd yn rhan ohono i ddysgu parhaus, cydweithio a rhagoriaeth weithredol, gan helpu i sicrhau bod cymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i dderbyn y safon uchaf o ymateb mewn argyfwng pan fo hynny’n bwysicaf.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Erthygl Flaenorol