Roedd yr hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio ar rwymo’r cwch yn ei lle, creu safleoedd gweithio diogel a dilyn gweithdrefnau diogelwch sy’n benodol i amgylchedd morol. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol wrth ymateb i ddigwyddiadau sy’n cynnwys cleifion mewn dŵr, digwyddiadau llifogydd neu argyfyngau sy’n cynnwys llongau.
Drwy weithio mewn lleoliad realistig ac ymarfer senarios ymarferol, cryfhaodd yr ymarfer hyder, gwaith tîm, a pharodrwydd y criw ar gyfer digwyddiadau dŵr go iawn. Mae'n rhan o ymrwymiad parhaus yr orsaf i gynnal lefelau uchel o barodrwydd a datblygu Diffoddwyr Tân iau i sicrhau diogelwch y gymuned leol ac ymwelwyr â'r arfordir.