Ers dydd Gwener, 7 Awst, mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) wedi bod yn ymateb i dân gwyllt sylweddol ger Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glynebwy.
Trwy gydol y penwythnos a’r bore ’ma (dydd Llun, 10 Awst), mae diffoddwyr tân o'r ddau Wasanaeth wedi bod yn gweithio'n ddiflino i atal y tân, gan ganolbwyntio ar weithgareddau gweithredol allweddol i gyfyngu ar ei ledaeniad a diogelu'r tir cyfagos.
Ar hyn o bryd mae'r tân yn cwmpasu tua 400 hectar.
Mae sawl peiriant tân yn parhau i fod ar y safle, gyda chefnogaeth adnoddau arbenigol gan gynnwys bowserau dŵr, cerbydau sy’n addas ar gyfer pob math o dir, cerbydau 4x4 ac asedau gwytnwch cenedlaethol.
Ar ôl asesiadau parhaus o amodau tywydd, yr amgylchedd gweithredu, a'r tactegau a'r adnoddau mwyaf effeithiol sydd eu hangen, mae hofrennydd yn parhau i gefnogi’r criwiau ar y ddaear i geisio diffodd y tân.
Oherwydd bod y gwynt wedi newid cyfeiriad y bore 'ma, mae mwg y tân gwyllt bellach yn effeithio ar ardaloedd gan gynnwys Blaenafon, Brynmawr, Pont-y-pŵl a Chasnewydd.
Efallai y bydd trigolion yn sylwi ar fwy o fwg ac arogl mwg. Mae'r gwasanaethau brys ac asiantaethau partner yn monitro'r sefyllfa'n agos ac yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhagofalon priodol os yw’r mwg yn effeithio arnyn nhw, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau anadlol, pobl hŷn a phlant ifanc.
Mae ansawdd yr aer, amodau’r tywydd a'r effaith ehangach ar gymunedau lleol yn cael eu hasesu'n barhaus fel rhan o'r ymateb aml-asiantaethol, a bydd tactegau gweithredol yn cael eu haddasu yn ôl yr angen.
Mae disgwyl i ddiffoddwyr tân aros ar y safle am sawl diwrnod arall, gyda'r ymateb gweithredol yn parhau i gael ei adolygu a'i addasu wrth i'r amodau newid.
Mae ffyrdd yn dal i fod ar gau, ac mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i barchu llwybrau dargyfeirio a chyfyngiadau er mwyn sicrhau bod gan wasanaethau brys y lle a'r mynediad sydd eu hangen i wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae Grŵp Cydlynu Tactegol aml-asiantaethol a sefydlwyd mewn ymateb i'r digwyddiad yn parhau i fod yn weithredol. Mae sefydliadau partner yn parhau i weithio'n agos gyda'i gilydd i asesu risgiau, rhannu gwybodaeth, cydlynu adnoddau, a chytuno ar y camau gweithredu mwyaf priodol i reoli'r digwyddiad a lleihau ei effaith ar y tir, ar gymunedau lleol ac ar yr amgylchedd ehangach.