06.02.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Ci ym Mhort Talbot

Achubodd y Diffoddwyr Tân o’n Gorsaf Dân ym Mhort Talbot gi oedd yn sownd ar ddydd Mercher, Ionawr 29ain.

Gan Steffan John



Am 6.49yh ddydd Mercher, Ionawr 29ain, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Port Talbot ei galw i ddigwyddiad ar Stryd y Parc ym Mhort Talbot.

Ymatebodd y criwiau ar ôl i gi redeg i lawr bwlch cul rhwng dau dŷ allan wedi'u hadeiladu o frics, ar ôl cael ei ddychryn gan gi cymydog.  Aeth y ci yn sownd yn y bwlch ac mewn rholyn o gebl ac nid oedd yn gallu troi o gwmpas a gadael y bwlch.  Defnyddiodd aelodau’r criw fachyn i dynnu’r rholyn cyfan allan i ryddhau’r ci a’i aduno â’i berchnogion.  Gadawodd y criw am 7.04yh.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf