19.08.2024

Digwyddiad: Tân ar Bier y Mwmbwls

Am 3.51yb ddydd Sadwrn, Awst 17eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe, Canol Abertawe, Treforys, Gorseinon, Pontarddulais a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Bier y Mwmbwls.

Gan Steffan John

Ymatebodd criwiau i dân o fewn adeilad un llawr yn mesur tua 20m x 20m a ddefnyddiwyd fel arcêd ddifyrion.  Roedd y tân wedi’i leoli yn y to ar ochr orllewinol yr adeilad, achoswyd difrod gwres a mwg sylweddol i rannau helaeth o’r adeilad.

Defnyddiodd criwiau 12 set cyfarpar anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, un brif bibell ddŵr, un bibell 45mm, un hydrant a golau i ddiffodd y tân.  Ni ddaeth ail-archwilion o’r adeilad y bore hwnnw o hyd i unrhyw fannau poeth nodedig.

Mae Ymchwiliad Tân wedi dod i’r casgliad bod y tân wedi ei achosi’n ddamweiniol.

Lluniau gan Chris Faulder.

Lluniau gan Chris Faulder.

Lluniau gan Ddirprwy Bennaeth yr Adran Gweithdrefnau Gweithredol a Dysgu Jason Woodman.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf