Am 11.23yh, ddydd Mercher, Mai 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Dyffryn Aman, Llandeilo a Threforys eu galw i ddigwyddiad yng Nglanaman.
Ymatebodd y criwiau i dân mewn eiddo pâr deulawr. Roedd yr eiddo wedi cael ei daro gan fellten a wnaeth gynnau tân ar do’r eiddo. Defnyddiodd y criwiau chwech set o gyfarpar anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, tri chamera delweddu thermol, ysgolion a bachau to i ddiffodd y tân.
Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb y peiriant ysgol drofwrdd awyr o Orsaf Dân Treforys.
Achoswyd difrod sylweddol i'r eiddo gan y tân a lledaenodd y tân i eiddo cyfagos. Cafodd pawb eu cyfrif ac ni adroddwyd am unrhyw anafiadau.
Roedd angen ymateb amlasiantaeth i'r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r Grid Cenedlaethol hefyd yn bresennol.
Gadawodd y criwiau am 2.45yb, ddydd Iau, Mai 28ain.