11.09.2024

Digwyddiad: Tân mewn Carafán ym Mryncoch

Ddydd Llun, Medi 9fed cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Castell-nedd a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad ym Mryncoch, Castell-nedd.

Gan Steffan John



Am 4.33yp ddydd Llun, 9 Medi cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Castell-nedd a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad ym Mryncoch, Castell-nedd.

Ymatebodd y criwiau i dân a ddinistriodd garafán fach yn llwyr. Defnyddiodd y criwiau un jet rîl pibell ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Mae’n debyg mai hen silindr nwy a achosodd y tân.  Gadawodd y criwiau’r safle am 5.12pm.

Diogelwch wrth Wersylla

Yn dilyn cyfres o danau mewn pebyll a charafannau yn ddiweddar, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch o safbwynt carafannau a gwersylla.

Gall tanau mewn pebyll a charafannau ledaenu'n gyflym iawn ac yn aml gallant rwystro'r unig allanfa.  Mae'n hollbwysig bod yn arbennig o wyliadwrus er mwyn osgoi tân rhag cychwyn.

Gall osgoi defnyddio dyfeisiau llosgi tanwydd – fel barbeciws, stofiau gwersylla a gwresogyddion - y tu mewn i babell a chaniatáu digon o le rhwng pebyll a charafannau leihau'r risg y bydd tân yn cychwyn ac yn lledaenu. Gellir dod o hyd i fwy o gyngor diogelwch ar gyfer gwersylla yma.





A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf