Am 9.36yb ddydd Sadwrn, Rhagfyr 28ain, ymatebodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberystwyth i ddigwyddiad ar Heol Clarach yn Aberystwyth.
Ymatebodd y criw i dân simnai mewn eiddo domestig tri llawr yn mesur tua 25 metr wrth 15 metr. Lleolwyd y tân o fewn y frest simnai a defnyddiodd aelodau’r criw un chwistrell piben, dau gamera delweddu thermol, offer simnai, offer bach a pheiriant ysgol trofwrdd i ddiffodd y tân. Ar ôl diffodd y tân, fe wnaeth y criw awyru’r eiddo yn naturiol a rhoi cyngor i breswylydd yr eiddo. Gadawodd y criw am 1.40yp.
Diogelwch Tân Simnai
Gellir atal y mwyafrif o danau simnai. Mae archwilio a glanhau ffliwiau simnai yn gyson yn helpu i atal tanau yn y simnai.
Mae ysgubo a chynnal a chadw cyson nid yn unig yn lleihau'r tebygolrwydd o dân simnai, ond gall hefyd osgoi croniad peryglus o nwy carbon monocsid. Mae Carbon Monocsid yn nwy hynod o wenwynig sydd heb unrhyw liw, blas nac arogl. Gall offer llosgi tanwydd fel stofiau, tanau, boeleri a gwresogyddion dŵr gynhyrchu carbon monocsid os ydyn nhw wedi'u gosod yn anghywir, wedi’u trwsio'n wael neu mewn cyflwr gwael, neu os yw ffliwiau, simneiau neu fentiau wedi’u rhwystro.
Mae larymau mwg a charbon monocsid sy'n cael eu cynnal a’u cadw ac yn gweithio'n iawn yn achub bywydau.
Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch tân simnai ar gael ar wefan y Gwasanaeth.