Simneiau, Tanau Agored a Stofiau Llosgi Pren



P'un a ydych wedi cael tân agored ers blynyddoedd neu os ydych chi'n ystyried gosod stôf aml-danwydd, mae rhai awgrymiadau defnyddiol ar sut i'w defnyddio'n ddiogel ac osgoi cael tân simnai.





Diogelwch Simneiau

Gellir atal y mwyafrif o danau simnai. Mae archwilio a glanhau ffliwiau simnai yn gyson yn helpu i atal tanau yn y simnai.

Dyma rai cynghorion syml i leihau’r siawns y bydd tân yn amlygu yn eich simnai:

  • Glanhewch y simnai cyn ei defnyddio, os yw wedi bod segur ers peth amser;
  • Gofalwch bod y gard tân o flaen y tân bob amser;
  • Mae gard gwreichion yn medru atal tân difrifol yn y cartref;
  • Diffoddwch y tân cyn mynd i’r gwely neu cyn gadael y tŷ;
  • Peidiwch BYTH â defnyddio petrol neu baraffîn i gynnau eich tân.


Mae gan danau simnai’r potensial i achosi difrod difrifol i’ch cartref chi, felly sicrhewch fod eich simnai’n cael ei glanhau’n unol â chanllawiau Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgubwyr Simneiau:-

  • Offer Tanwydd Solet - Unwaith y flwyddyn ar gyfer tanwydd di-fwg a dwywaith y flwyddyn ar gyfer glo
  • Offer Llosgi Pren – Pob tri mis pan bod yr offer mewn defnydd
  • Offer Nwy – Unwaith y flwyddyn, os dyluniwyd yr offer i gael ei lanhau
  • Offer Olew – Unwaith y flwyddyn

Peidiwch â chael eich temtio i lanhau eich simnai gyda sugnwr llwch domestig, gadewch y gwaith i ysgubwr simneiau.  Mynnwch fod eich ffliw yn cael ei harchwilio’n rheolaidd, er mwyn atal tân rhag torri allan o’r simnai i mewn i’ch ardal fyw neu yn y llofft.

  • Rhowch wybod i bawb arall yn y tŷ
  • Deialwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân – rydym yn trin tanau simnai fel unrhyw dân arall yn y cartref
  • Os oes gennych dân agored confensiynol, diffoddwch y tân trwy ysgeintio dŵr yn ysgafn ar y tân agored
  • Os mai offer tanwydd solet ydyw, caewch yr awyrell cyn belled ag y bod modd
  • Symudwch ddodrefn a rygiau i ffwrdd oddi wrth y lle tân a symudwch unrhyw addurniadau sydd gerllaw
  • Rhowch gard tân neu gard gwreichion o flaen y tân
  • Rhowch eich llaw ar frest y simnai mewn ystafelloedd eraill, i weld a fedrwch chi deimlo unrhyw wres
  • Os oes wal yn dechrau cynhesu, symudwch y dodrefn oddi wrth y wal

Gofalwch bod modd i’r Gwasanaeth Tân i gael mynediad i’r atig neu wagle’r to, oherwydd fe fyddant eisiau archwilio’r ardal yn ofalus, i sicrhau nad yw’r tân wedi lledu.



Stofiau Llosgi Coed

Dim ond pren o'r ansawdd cywir a ddylai gael ei ddefnyddio mewn stofiau llosgi coed a bwyleri llosgi coed. Mae angen bod stofiau'n cael eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n gywir, ac yn cael gwasanaeth rheolaidd gan unigolyn galluog a chymwysedig.

Os nad yw eich llosgwr coed yn llosgi'n gywir, cysylltwch â'r cwmni neu'r siop a'i gwerthodd i chi, neu cysylltwch â Chymdeithas Gwneuthurwyr Offer Tanwydd Solet Prydain i ofyn am gyngor.



  • Dylai stofiau neu fwyleri gael eu gosod gan unigolyn cymwys, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r rheoliadau adeiladu a chodau ymarfer adeiladu.
  • Gofalwch fod digon o aer yn dod i mewn i'r ystafell bob amser a bod y simnai'n lân - bydd hyn yn cynorthwyo'r broses losgi ac yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd gronynnau a gludir ar yr aer yn yr ystafell. Gall gronynnau yn yr ystafell fod yn beryglus i'ch iechyd, yn fwy felly i'r rheiny sydd â salwch anadlol yn barod.
  • Mae gofyn gosod stofiau a bwyleri llosgi coed ar sylfaen sy'n ddiogel rhag tân. Byddai eu rhoi i sefyll yn syth ar lawr pren caled neu arwyneb wedi'i garpedu yn cynyddu'r risg o dân oherwydd y gwres eithafol yn y blwch tân.
  • Dylai'r pren fod wedi'i sychu'n dda. Bydd hyn yn cymryd tua dwy flynedd fel rheol. Bydd holltau sychu i'w gweld ar ddau ben darnau o goed tân sych. Gall pren gwlyb neu bren newydd ei gwympo achosi i dar neu greosot ffurfio yn y llosgwr a'r simnai.
  • Os na chaiff y creosot ei waredu trwy'i lanhau yn flynyddol, mae perygl sylweddol y bydd y creosot yn tanio ac yn achosi tân simnai. Mae'n bosibl i unrhyw fath o dân simnai achosi colledion sylweddol o ran eiddo neu fywyd.
  • Os bu'r llosgwr yn llosgi'n araf (dros nos, er enghraifft), dylid dilyn hynny â chyfnod o losgi cyflymach er mwyn sychu unrhyw greosot a chynhesu'r simnai unwaith eto.
  • Dylid glanhau'r simnai ar ddiwedd pob tymor llosgi ac o leiaf unwaith yn ystod y tymor llosgi. Dylid archwilio'r simnai yn rheolaidd.
  • Peidiwch â phentyrru coed na rhoi deunyddiau llosgadwy eraill wrth ochr y stôf neu'r bwyler. Mae'r Gwasanaeth wedi cael ei alw i danau a achoswyd o ganlyniad i gadw coed tân yn erbyn wyneb allanol poeth llosgwyr coed.
  • Dylid dysgu plant am beryglon tanau ac ni ddylid caniatáu iddynt fynd yn agos at arwynebau poeth na drws y stôf. Defnyddiwch gard amddiffynnol sy'n gweddu i gynllun y stôf yn eich cartref.
  • I osgoi cael eich llosgi, cymerwch ofal ychwanegol a defnyddiwch amddiffyniad priodol wrth agor drws y stôf, wrth roi rhagor o goed ar y tân neu wrth gyffwrdd ag unrhyw ran o'r stôf llosgi coed.
  • Peidiwch byth, am unrhyw reswm, â gadael tân heb neb yn cadw golwg arno.