01.05.2024

Digwyddiadd: Tân Mewn Adeilad Adfeiledig yng Nghydweli

Am 4.30yp ddydd Mawrth, Ebrill 30ain, cafodd criwiau Cydweli, Pontiets, Llanelli a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol yr Orsaf yng Nghydweli.

Gan Rachel Kestin



Am 4.30yp ddydd Mawrth, Ebrill 30ain, cafodd criwiau Cydweli, Pontiets, Llanelli a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol yr Orsaf yng Nghydweli.



Ymatebodd y criwiau i adeilad unllawr adfeiliedig yn mesur tua 15m x 10m a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd.  Gwnaeth criwiau diffodd y tân gan ddefnyddio 14 set cyfarpar anadlu, dwy chwistrell piben olwyn, tri chamera delweddu thermol, dau brif chwistrell a dwy ysgol ymestyn fyr.  Roedd angen ymateb amlasiantaethol ar gyfer y digwyddiad hwn wrth i Heddlu Dyfed-Powys, yr Awdurdod Lleol, BT a Dŵr Cymru hefyd fynychu.

Gadawodd y criwiau am 12.07yb ddydd Mercher, Mai 1af.





Lluniau gan Dan Evans.

Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?


Mae Cydweli, Pontiets, Llanelli* a Phort Talbot* yn Orsafoedd Tân Ar Alwad, sy’n golygu bod eu diffoddwyr tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

*Mae gan Orsafoedd Tân Llanelli a Phort Talbot system criwio yn ystod y dydd/llawn amser ac ar alwad.

Erthygl Nesaf