10.07.2024

Diogelwch Tân Fferm: Profi Tymheredd Bêls Gwair

Am 10.17yb ddydd Gwener, 5 Gorffennaf, cafodd Swyddog Tactegol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei alw i ddigwyddiad yng ngwarchodfa anifeiliaid Herd on the Hill yn Nhalsarn, yn dilyn adroddiadau am fêls gwair a oedd yn gynnes i’w cyffwrdd.

Gan Steffan John



Am 10.17yb ddydd Gwener, 5 Gorffennaf, cafodd Swyddog Tactegol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ei alw i ddigwyddiad yng ngwarchodfa anifeiliaid Herd on the Hill yn Nhalsarn, yn dilyn adroddiadau am fêls gwair a oedd yn gynnes i’w cyffwrdd.

Profwyd gwres a chynnwys lleithder y bêls, gyda Swyddog Tactegol arall yn ailymweld â’r eiddo yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghyd â chriw o Orsaf Dân Llambed, i fonitro’r bêls ac i gynnal Ymweliad Diogel ac Iach a oedd yn cynnwys gosod larymau mwg.  Yn ystod yr ymweliadau hyn, cafodd 20 o fêls eu tynnu o'r ysgubor gyda’r bwriad i ailedrych ar y sefyllfa y diwrnod canlynol.

Yn ystod yr ail ymweliad, canfuwyd bod y bêls wedi cyrraedd tymheredd critigol.  Roedd angen tynnu tua 100 o fêls o'r sgubor a chafodd criw Llambed eu hanfon eto fel rhagofal diogelwch rhag ofn iddynt fynd ar dân.  Parhaodd y criw i fonitro tymheredd y bêls, â mwg yn dod ohonynt. 

Diogelwch Tân ar Fferm

Mae cyfran fawr o ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i dapestri o gymunedau gwledig ac amaethyddol.  Yn dilyn y digwyddiad hwn, mae GTACGC yn cyhoeddi nodyn atgoffa a chyngor ar ddiogelwch tân fferm i aelodau o’r cymunedau ffermio:

  • Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM
    Mae GTACGC yn falch o gynnig Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM.  Os oes gennych bryderon ynghylch tymheredd eich bêls gwair, cysylltwch â ni i ofyn am wiriad AM DDIM o dymheredd a chynnwys lleithder eich bêls gwair, gan ddefnyddio offer arbenigol.  Yn dibynnu ar y darlleniadau a gawn, byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun i reoli'r risgiau cysylltiedig.   I archebu ymweliad am ddim, ffoniwch 0800 169 1234.
    Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Ni ddylai bêls gwair wedi'u storio gynnwys lleithder sy'n fwy na 22%.
    Mae bêls gwair sydd â chynnwys lleithder o 22% neu uwch yn peri risg o gynyddu mewn gwres ar ôl eu pentyrru, gan arwain at orboethi a hylosgiad digymell o bosibl.
  • Dylai tymheredd y bêls gwair fod yn is na 35°C cyn eu casglu o’r cae i'w storio.
    Gall bêls gwair â thymheredd uwch na 35°C barhau i gynhyrchu eu gwres eu hunain i bwynt lle gall hylosgiad digymell ddigwydd.
  • Cyngor ar Storio Bêls Gwair
    Lle bo modd, dylid lleoli pentyrrau ar wahân, yn ddigon pell o adeiladau fferm eraill, yn enwedig adeiladau da byw. Cadwch bentyrrau i faint rhesymol, ymhell oddi wrth ei gilydd ac yn sych.  Ceisiwch osgoi storio gwrtaith, cemegau, silindrau nwy, tractorau a pheiriannau eraill mewn ysguboriau sy'n cynnwys bêls gwair.  Sicrhewch fod yr holl offer trydanol a gwifrau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
    Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Arwyddion o fêls gwair yn gorboethi
    Gall arwyddion o fêls gwair yn gorboethi gynnwys afliwio neu frownio mewn mannau, pentyrrau y gwelir eu bod yn ‘stemio’ yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos, presenoldeb arogl melys neu orfelys a gwellt yn troi’n ffurf tebyg i dybaco.

Cyngor a Chefnogaeth

Mae gan y Gwasanaeth amrywiaeth o ffyrdd i helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i ddiogelu eu heiddo a’u da byw rhag bygythiad tân ac i gynllunio ymlaen llaw drwy:

  • Sicrhau bod eich Asesiad Risg Tân Fferm yn gyfredol
  • Datblygu ‘Blwch Tân’ wrth fynedfa’r eiddo sy’n cynnwys manylion megis lleoliad y cyflenwadau dŵr, map o’r tir, rhestr o dda byw a lleoliadau deunyddiau peryglus
  • Osgoi storio deunydd fflamadwy gyda cherbydau neu dda byw
  • Ystyried a all injan dân gyrraedd pob rhan o'ch eiddo, gall injan safonol bwyso mwy na 12 tunnell, felly gall pydewau a gridiau gwartheg fod yn broblem.
  • Gellir defnyddio criwiau arbenigol i achub anifail o uchder, dŵr a thir ansefydlog.  PEIDIWCH BYTH â rhoi eich hun mewn perygl, os bydd angen achub eich da byw, ffoniwch 999.

Am ragor o wybodaeth, ewch yma.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf