Ddydd Sadwrn, 18fed Ebrill cynhaliodd criw Gorsaf Dân Llandeilo ddigwyddiad golchi ceir elusennol i godi arian at achos gwych.
Diolch i haelioni'r gymuned leol, cododd y criw £1000 i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Daeth trigolion draw drwy gydol y dydd er mwyn i’w cerbydau gael eu glanhau wrth gefnogi'r digwyddiad, gyda Diffoddwyr Tân yn gweithio gyda'i gilydd i godi arian ac ymgysylltu â'r gymuned.
Hoffai'r criw ddiolch i bawb a ddaeth draw ac a gyfrannodd yn ariannol, gan helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant mawr.