01.09.2025

Wythnos Diogelwch Tân Simdde - 1–7 Medi 2025

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Diogelwch Tân Simdde, ac yn annog pawb i gael eu simdde wedi’i glanhau.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Diogelwch Tân Simdde, ac yn annog pawb i gael eu simdde wedi’i glanhau.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae GTACGC wedi ymateb i ---- o danau simdde. 

Mae tanau simdde fel arfer yn dechrau oherwydd bod huddygl wedi cronni a gallan nhw achosi difrod mawr - a mewn rhai achosion, beryglu bywyd. Gellir osgoi'r rhan fwyaf o danau simdde. Bydd archwilio a glanhau ffliwiau simdde yn helpu i atal tân mewn simdde.

Mae glanhau a chynnal a chadw rheolaidd nid yn unig yn lleihau'r siawns o dân simdde, ond gall hefyd osgoi croniad peryglus o nwy carbon monocsid. Mae Carbon Monocsid yn nwy hynod o wenwynig sy’n ddi-liw, yn ddi-flas ac yn ddi-arogl. Gall carbon monocsid dreiddio i eiddo trwy ffliwiau neu simneiau a rennir, cronni mewn simneiau wedi blocio a gall hyd yn oed dreiddio trwy waliau brics a phlastr.

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cartref, Gareth Hands:

"Heb gynnal a chadw rheolaidd gall simdde sydd ddim wedi'i chynnal a chadw arwain at dân, sydd â'r potensial i ledaenu i ardaloedd eraill, gan greu difrod sylweddol i'ch cartref. Rydym yn argymell bod eich simdde’n cael ei glanhau o leiaf ddwywaith y flwyddyn, neu dylech o leiaf ei glanhau cyn ei defnyddio yn ystod misoedd yr Hydref."



Mae camau syml y gellir eu cymryd i leihau’r siawns o dân yn cychwyn mewn simdde:

  • Glanhewch y simdde cyn ei defnyddio - os nad yw wedi cael ei defnyddio ers peth amser.
  • Gwnewch yn siŵr fod gwarchodwr tân (fire guard) o flaen y tân bob amser.
  • Diffoddwch y tân cyn mynd i'r gwely neu cyn gadael y tŷ.
  • Peidiwch byth â defnyddio petrol neu baraffin i gynnau tân.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich larymau mwg a charbon monocsid yn cael eu cynnal a chadw’n rheolaidd ac yn gweithio

Os hoffech ragor o gyngor ar Ddiogelwch Simdde, ewch i: Simneiau, Tanau Agored a Stofiau Llosgi Pren (https://www.mawwfire.gov.uk/cym/)

Os oes gennych bryderon ynghylch materion diogelwch yn eich cartref, gellir trefnu ymweliad Diogel ac Iach rhad ac am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru drwy ffonio 0800 169 1234 neu ymweld â'n gwefan.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf