Yn ddiweddar, cymerodd nifer o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn Ymarfer Hyfforddi ‘Anweddu’ yn Nherfynell Nwy Naturiol Hylifedig South Hook yn Aberdaugleddau.
Roedd yr ymarfer hyfforddi yn efelychu gollyngiad nwy hylifol, gan arwain at nifer o gleifion angen eu hachub. Roedd yr achubiadau'n cynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys achub cleifion o uchder, achub o dan y wyneb ac o ddŵr gan ddefnyddio teclyn awyr. Roedd yna hefyd angen achub claf o le cyfyng, y bu angen cefnogaeth Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru.
Bu’r ymarfer hyfforddi aml-asiantaeth yn cynnwys 10 injan dân o Ranbarth Gorllewin GTACGC (Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro), ac roedd angen i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Fforwm Cydnerthu Lleol Sir Benfro cydweithio i ddatrys y digwyddiad yn llwyddiannus. Cafodd y Grwpiau Cydlynu Gweithredol a Thactegol hefyd eu hefelychu yn ystod yr ymarfer.
Roedd y sesiwn yn gyfle gwych i ddatblygu a mireinio sgiliau gweithio mewn partneriaeth, datrys problemau ac achub o sefyllfaoedd heriol aelodau’r criwiau a’r gwasanaethau brys a gymerodd ran.