Ddydd Iau, 16 Gorffennaf, cwblhaodd deg diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin (GTACGC) ar Gwrs Amser Cyflawn 02/24 eu hasesiadau terfynol yn llwyddiannus a chyflawni statws diffoddwr tân cymwys yn dilyn rhaglen brentisiaeth ddwy flynedd.
Cafodd y diffoddwyr tân Ellie Aston, Dan Thomas, Dan Hart, Bryn Davies, Aiden Mason-Jones, Martyn Jenkins, Nathan Jones, Henry Torkington, Sabrina Brooke a Can Tenbelogu eu hasesiad terfynol dros ddeuddydd yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood, gan ddangos yr wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad sy’n ofynnol gan ddiffoddwr tân gweithredol cymwys. Ar ôl bodloni'r safonau gofynnol yn llwyddiannus, mae pob un ohonynt wedi derbyn Diploma Lefel 3 SFJ mewn Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys.
Cyflwynwyd y rhaglen brentisiaeth ddwy flynedd mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe a rhoddodd y sylfaen ar gyfer datblygu’r diffoddwyr tân o fod yn recriwtiaid i fod yn ddiffoddwyr tân gweithredol cymwys llawn.
Trwy gydol eu taith brentisiaeth, cafodd y diffoddwyr tân gefnogaeth barhaus gan adran Datblygu Pobl a Sefydliadol (POD) GTACGC, ochr yn ochr â’r Rheolwr Gorsaf, Gareth Minney, gan eu helpu i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu rolau.
Wrth sôn am eu cyflawniad, dywedodd y Rheolwr Gorsaf, Gareth Minney: