17.04.2025

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Croesawu 11 o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn Newydd

Ar ddydd Mercher, 16 Ebrill, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Raddio a Gorymdaith i nodi bod y garfan ddiweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn wedi cwblhau’r Cwrs Hyfforddi.

Gan Rachel Kestin



Ar ddydd Mercher, 16 Ebrill, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Raddio a Gorymdaith i nodi bod y garfan ddiweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn wedi cwblhau’r Cwrs Hyfforddi.

Agorwyd y seremoni yng Nghanolfan Hyfforddi GTACGC Earlswood gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM, a daeth teulu, ffrindiau, a phersonél y Gwasanaeth Tân at ei gilydd i ddathlu cyflawniad anhygoel yr 11 unigolyn.

Bu Sgwad 01/25, fel y'u gelwir, ar daith drawsnewidiol gyda'i gilydd yn ystod eu 14 wythnos o hyfforddiant trylwyr.

Dywedodd y Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, Stuart Bate:

“Mae gen i ymdeimlad enfawr o falchder ac edmygedd wrth feddwl am y siwrnai ryfeddol y mae'r graddedigion hyn wedi cychwyn arni dros yr 14 wythnos ddiwethaf. O ddiwrnod cyntaf eu hyfforddiant, maent wedi dangos dewrder, disgyblaeth a phenderfyniad i gynnal traddodiadau gorau'r Gwasanaeth Tân. Drwy gydol eu hyfforddiant, mae Sgwad 01/25 wedi wynebu cyfres o heriau anodd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Maent wedi dangos gwytnwch eithriadol, ac wedi croesawu gwerthoedd gwaith tîm, uniondeb ac anhunanoldeb sy'n diffinio ein proffesiwn. Heddiw, wrth i ni ddod ynghyd i ddathlu eu llwyddiannau, ni ddylwn anghofio'r aberth y maent wedi'i wneud a'r ymroddiad y maent wedi'i ddangos. Maent wedi dewis llwybr sy'n gofyn am ddewrder, tosturi, ac ymdeimlad dwfn o ddyletswydd tuag at eraill. Llongyfarchiadau, raddedigion.”



Roedd y Seremoni’n cynnwys Gorymdaith y Recriwtiaid, Archwiliad o’r Recriwtiaid gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Gwynfor Thomas a’r Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, Rheolwr Grŵp Stuart Bate. 

Cynhaliwyd sawl Arddangosiad yn yr Iard Ymarfer i ddangos y sgiliau ymateb brys a ddatblygodd holl aelodau Sgwad 01/25 yn ystod eu hyfforddiant. Wedyn, cyflwynwyd y Tystysgrifau a’r Gwobrau.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas KFSM:

Ddoe, fe ddathlom lwyddiannau rhyfeddol yr 11 unigolyn eithriadol hyn sydd wedi cael pedair wythnos ar ddeg o hyfforddiant trwyadl ac mae’n nodi pwynt arwyddocaol yn eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn. Fel rhan annatod o’r seilwaith ymateb brys yng Nghymru, mae GTACGC yn enghraifft o broffesiynoldeb, parodrwydd ac ymroddiad diwyro i ddiogelwch y cyhoedd ac rydych chi bellach yn rhan hanfodol o’r gwaith hwn. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Adran Cyflenwi Hyfforddiant sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno cwrs hyfforddi o'r radd flaenaf i'n recriwtiaid newydd. Heb y sgiliau, y wybodaeth arbenigol a’r ymroddiad, ni fyddai hyn yn bosibl."



Cyn bo hir bydd pob un sydd wedi graddio yn dechrau eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn yn eu Gorsaf Dân ddynodedig.  Mae pawb yn GTACGC yn eu llongyfarch ac yn dymuno gyrfa hir a llwyddiannus i bob un ohonynt.

 
Tystysgrif Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn

Rhoddodd y Prif Swyddog Tân Thomas dystysgrif wedi’i fframio i bob Diffoddwr Tân Amser Cyflawn i gydnabod eu bod wedi cwblhau’r Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn 14 wythnos o hyd.

 

Cyflwyno Gwobr Arbennig Ffitrwydd Corfforol a Chlwb 300

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu gan Dîm Ffitrwydd y Gwasanaeth ac yn cael ei chyflwyno i’r recriwt sydd wedi gwthio’i hun i’r eithaf yn gyson ac sydd wedi ymdrechu i wneud ei orau glas bob tro.

O garfan 01/25, cyflwynwyd y wobr hon i Kallum Richards gan y Prif Swyddog Tân Thomas.

 


Gwobr Recriwt y Recriwtiaid

Mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael ei ddewis gan y recriwtiaid eraill ar y cwrs.  Mae’n cael ei rhoi i'r recriwt sydd wedi ymdrechu orau yn bersonol ac wrth helpu eu cyd-recriwtiaid.  Mae hon yn wobr arwyddocaol gan ei bod yn tynnu sylw at unigolyn sy'n perfformio'n arbennig o dda.

Cyflwynwyd y wobr i Rhys Tucker gan Gadeirydd yr Awdurdod Tân, y Cynghorydd Gwynfor Thomas.

 


Y Wobr i’r Recriwt â’r Perfformiad Gorau

Mae’r Fwyell Arian yn cael ei rhoi i'r recriwt sy'n perfformio orau ar y cwrs ac mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael ei ddewis gan eu prif hyfforddwyr.  Bydd y recriwt sy'n perfformio orau wedi perfformio ar lefel uchel yn gyson ym mhob tasg drwy gydol y cwrs.  Mae gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, canlyniadau arholiadau, arweinyddiaeth a gweithio fel rhan o dîm i gyd yn cael eu hystyried wrth ddewis y recriwt sy’n perfformio orau.

Cyflwynwyd y wobr hon i Llion Jones gan y Prif Swyddog Tân Thomas.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf