Mae'r Seremoni Cwblhau yn garreg filltir bwysig yn nhaith pob Diffoddwr Tân. Wrth iddynt ymuno â'u Gorsafoedd Tân priodol ledled ardal y Gwasanaeth, byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i argyfyngau, cefnogi mentrau diogelwch cymunedol, a helpu i ddiogelu'r cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu nid yn unig iddynt gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, ond hefyd yr ymrwymiad, y gwydnwch a'r dyfalbarhad a ddangoswyd gan bob recriwt drwy gydol eu hyfforddiant.
Mae pawb yn GTACGC yn llongyfarch y Diffoddwyr Tân Ar Alwad newydd ar y cyflawniad rhagorol hwn, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd gweithredol.
Llongyfarchiadau, a chroeso i'r Gwasanaeth.