Ewch i'n e-lyfrgell ar-lein i weld ein Llenyddiaeth Diogelwch Cymunedol.
Rydym yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid ac asiantaethau partner allweddol i dargedu a darparu amryw o raglenni addysg, ymyrraeth a chyhoeddusrwydd diogelwch ar y ffyrdd effeithiol ar gyfer defnyddwyr ffyrdd agored i niwed sy'n wynebu risg uchel.
Defnyddiwn y profiad hwn yn ein rhaglenni addysg i ddarparu negeseuon realistig ac uniongyrchol na fydd asiantaethau diogelwch ar y ffyrdd eraill yn gallu eu darparu.
Rydym yn cefnogi'r heddlu ac asiantaethau partner eraill i dargedu ymyrraeth sy'n rhoi sylw i'r canlynol:
- Yfed a gyrru/gyrru ar gyffuriau
- Peidio â gwisgo gwregys diogelwch
- Goryrru
- Gyrru diofal, gyrru peryglus
- Gyrru heb dalu sylw
Pwy yw ein defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed?
- Beicwyr Modur
- Pobl Ifanc
- Gyrwyr Hŷn
Beth y gallwch chi'i wneud i helpu?
Byddem yn eich annog chi, eich teulu a'ch ffrindiau i ddod i'r digwyddiadau a'r cyrsiau addysg rydym ni a'n partneriaid yn eu cynnal. Bydd hynny'n sicrhau eich bod yn ddefnyddiwr ffordd sydd:
- wedi cael gwell gwybodaeth am yr addysg a'r hyfforddiant rydym ni a'n partneriaid yn eu darparu.
- wedi'ch arfogi â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth a fydd yn gwneud i chi deimlo'n fwy diogel a bod yn fwy diogel pan fyddwch yn teithio ar y ffyrdd.
- yn ein helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd.
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699