Mae'n rhaid i yrwyr rannu'r ffyrdd â llawer mwy na cheir yn unig yn ystod misoedd yr haf. Mae tywydd braf a diwrnodau hirach yn denu llawer mwy o dractorau, carafannau, marchogion, beicwyr a cherddwyr.
Mae'n hanfodol eich bod yn cadw'n effro pan fyddwch yn gyrru ar hyd lonydd gwledig yn benodol, gan osgoi unrhyw risgiau wrth oddiweddyd a allai achosi damwain.
Mae beicwyr modur yn ymddangos yn amlach hefyd, felly edrychwch ddwywaith bob amser i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas.
Cadwch bellter digonol y tu ôl i dractor.
Cofiwch y gall tractor fod yn hirach nag y mae'n ymddangos – gallai fod llwythwr ar y tu blaen.
Cyn goddiweddyd, sicrhewch fod gennych ddigon o le i fynd heibio.