Egwyddorion Sylfaenol
- Arhoswch wrth olau coch bob amser – fel arall, gallech gael dirwy neu wrthdrawiad
- Defnyddiwch signalau llaw i ddangos eich bod yn troi i’r chwith neu i’r dde
- Beiciwch ar gyflymder priodol i’ch amgylchoedd – cofiwch fod cerddwyr yr un mor agored i niwed gennych chi ag yr ydych chi i niwed gan gar
Lleoli
- Lle bo’n bosibl, cadwch at y lôn feiciau
- Arhoswch yn y canol ar ffyrdd cul i annog gyrwyr i beidio â goddiweddyd yn beryglus
- Peidiwch â beicio ar y palmant neu yn erbyn y traffig ar stryd unffordd (oni bai ei bod wedi’i marcio’n glir ar gyfer beicwyr)
- Cadwch draw oddi wrth geir sydd wedi’u parcio, rhag ofn y bydd drws yn agor o’ch blaen
- Mae gan bob cerbyd mawr ‘fannau dall’. Mae’n fwy diogel peidio â goddiweddyd ar y tu mewn.
Gwelededd
- Pan fyddwch wedi stopio, ceisiwch gael cyswllt llygaid â gyrwyr i sicrhau eu bod wedi eich gweld
- Gwisgwch ddillad llachar neu fflworoleuol yn ystod y dydd, a dillad neu ategolion adlewyrchol yn y tywyllwch
- Defnyddiwch oleuadau yn y tywyllwch (gwyn yn y blaen a choch yn y cefn) – gallech gael dirwy os na fyddwch yn gwneud hynny.
Ategolion
- Peidiwch â defnyddio ffôn symudol neu glustffonau
- Gwisgwch helmed bob amser i gael diogelwch ychwanegol ar eich pen