Beth yw’r 5 Angheuol?
- Gyrru’n Ddiofal
- Gyrru dan Ddylanwad Alcohol a Chyffuriau
- Methu â gwisgo Gwregys Diogelwch
- Defnyddio Ffôn Symudol (neu Ddyfais Llywio â Lloeren)
- Goryrru
Mae defnyddwyr ffyrdd sy’n cyflawni un o’r troseddau 5 Angheuol yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad angheuol na’r rheiny nad ydynt yn cyflawni’r troseddau hyn.
Gall pobl farw ar ein ffyrdd o ganlyniad i yrru gwael, penderfyniadau di-hid a diffyg canolbwyntio am eiliad gan fodurwyr.
Mae gwrthdrawiad angheuol yn dorcalonnus – i’r teulu, i’r gymuned ac i staff y gwasanaethau brys sy’n ymateb ac yn gweld y drasiedi a’r canlyniad.
Mae atal mwy o farwolaethau rhag digwydd o ganlyniad i rywbeth diangen ac y gellir ei osgoi’n llwyr yn brif flaenoriaeth i ni.
Mae 98% o wrthdrawiadau yn cael eu hachosi gan wall dynol, a dim ond 2% ohonynt sy’n cael eu hachosi gan faterion na ellir eu hosgoi, megis methiant mecanyddol. Dyma’r pum ymddygiad mwyaf peryglus y mae’r tîm Dim Esgus yn mynd i’r afael â nhw:
1: Gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
Mae’r cosbau am yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yr un peth. Byddwch yn cael y canlynol:
- Gwaharddiad ar yrru am 12 mis
- Dirwy ddiderfyn
- Hyd at 6 mis yn y carchar
- Cofnod troseddol
Bydd gyrrwr sy’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn mynd i’r carchar am hyd at 14 mlynedd. Bydd euogfarn am yrru dan ddylanwad cyffuriau yn cael ei dangos ar eich trwydded yrru am 11 mlynedd. Os ydych yn gyrru yn eich gwaith, bydd eich cyflogwr yn gweld yr euogfarn pan fyddwch yn dangos eich trwydded iddo.
Beth yw’r terfyn cyfreithiol?
Yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, y terfyn alcohol cyfreithiol i yrwyr yw:
- 80 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed yn eich corff
- 35 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o anadl
- 107 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o wrin
Fodd bynnag, mae’r heddlu yn argymell, os ydych yn yfed unrhyw alcohol, y dylech adael i rywun arall yrru.
2: Cyflymder gormodol neu amhriodol
Dyma rai cynghorion i’ch helpu i aros o fewn y terfyn cyflymder:
- Edrychwch ar eich cloc cyflymder yn rheolaidd.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw’r terfynau – edrychwch am arwyddion, yn enwedig wrth gyffyrdd.
- Mae goleuadau stryd yn golygu 30mya, hyd nes bod arwyddion yn dangos fel arall.
- Ceisiwch ddefnyddio’r drydedd gêr mewn ardal â therfyn o 30mya i’ch helpu i aros o fewn y terfyn.
3: Gyrru diofal ac anystyriol
Nid oes rhestr safonol a fyddai’n cael ei hystyried yn yrru diofal neu anystyriol, fodd bynnag, mae’r adran Cyngor Cyffredinol o Reolau’r Ffordd Fawr yn rhoi enghreifftiau da. Er enghraifft, Rheol 147: Byddwch yn ystyriol, Rheol 148: Mae angen canolbwyntio i yrru a reidio’n ddiogel, a Rheol 150: RHAID ichi reoli eich cerbyd yn briodol bob amser. Gall unrhyw achos o dorri Rheolau’r Ffordd Fawr gael ei drin fel trosedd os bydd swyddogion yr heddlu yn ei weld.
Mae enghreifftiau o ymddygiadau peryglus y byddai’r tîm Dim Esgus yn eich stopio amdanynt yn cynnwys y canlynol:
- Gyrru’n rhy agos i’r cerbyd o’ch blaen
- Methu ag ildio wrth gyffordd
- Cyflymder sy’n amhriodol i’r ffordd a’r amodau, hyd yn oed os ydyw o fewn y terfyn cyflymder
- Gweithredu dyfais llywio â lloeren wrth yrru
- Bwyta ac yfed wrth y llyw
- Goddiweddyd ar y tu mewn neu oddiweddyd peryglus
4: Methu â gwisgo gwregysau diogelwch
Dan y gyfraith, mae’n rhaid ichi wisgo gwregys diogelwch mewn ceir a cherbydau nwyddau os oes un wedi’i osod. Mae ychydig iawn o eithriadau i hyn. Gall y gyrrwr gael ei erlyn os nad yw plentyn dan 14 oed yn gwisgo gwregys diogelwch neu mewn sedd ddiogel i blentyn, yn ôl yr angen. Yr unig sefyllfaoedd lle nad oes angen ichi wisgo gwregys diogelwch yw os ydych yn: yrrwr sy’n troi cerbyd o chwith, neu’n goruchwylio rhywun sy’n dysgu gyrru ac sy’n troi cerbyd o chwith; mewn cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr heddlu neu wasanaethau tân ac achub; teithiwr mewn cerbyd masnach a’ch bod yn ymchwilio i nam; gyrru cerbyd nwyddau i ddanfon nwyddau heb deithio mwy na 50 metr rhwng pob stop; gyrrwr tacsi trwyddedig sydd ar gael i’w hurio neu’n cludo teithwyr; os ydych wedi’ch eithrio yn feddygol rhag gwisgo gwregys diogelwch, a bydd eich meddyg yn rhoi 'Tystysgrif Eithrio' i chi.
5: Gyrrwr sy’n defnyddio ffôn symudol yn y llaw
Mae’n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol yn y llaw neu ddyfais debyg wrth yrru cerbyd, reidio beic modur neu oruchwylio dysgwr. Y gosb am wneud hyn yw £100 a 3 phwynt cosb ac, os bydd yr achos yn mynd i’r llys, byddwch yn wynebu dirwy uchaf o £1,000 (£2,500 i yrwyr cerbydau nwyddau), gwaharddiad a 3 phwynt. Ar ben hynny, gallai eich yswiriant gynyddu hefyd.
Beth ddylech chi ei wneud? Diffoddwch eich ffôn neu ei ddargyfeirio i neges llais cyn dechrau’r daith. Os bydd eich ffôn yn canu, gadewch ef. Gallwch wrando ar unrhyw negeseuon a gwneud galwadau pan fyddwch wedi parcio’n ddiogel a phan fydd yr injan wedi’i diffodd a’r allweddi allan o’r agoriad tanio.
A oeddech chi’n gwybod? Mae ymchwil wedi dangos bod y rheiny sy’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru bedair gwaith yn fwy tebygol o gael gwrthdrawiad na rhywun nad yw’n gwneud hynny. Er bod offer llawrydd yn gyfreithlon, mae hefyd yn werth gwybod bod profion wedi dangos y gall sylw pobl sy’n defnyddio’r offer hyn gael ei dynnu gymaint â phe baent yn gyrru’n feddw.