Mae cael llwybrau dianc clir os bydd tân yn hanfodol i’ch diogelwch chi a'ch teulu. Gall datblygu cynllun dianc rhag tân a’i ymarfer yn rheolaidd olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw mewn argyfwng.
Y ffordd orau o ddianc o'ch eiddo yw defnyddio'r llwybrau arferol – mae'n bwysig eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod yr holl landins, grisiau a choridorau sy'n arwain at y drysau blaen a chefn yn cael eu cadw'n glir o unrhyw beth a fyddai'n eich arafu, neu'n eich baglu os oeddech chi'n ceisio mynd allan ar frys.
Am Fwy o Wybodaeth
Diogelu Eich Cartref
Diogelwch Myfyrwyr