Diogelwch y Gwanwyn



Cadw'n Ddiogel y Gwanwyn Hwn!



Mae’r gwanwyn bron â chyrraedd! Daw â mwy o oriau o olau dydd, nosweithiau goleuach, a thywydd cynhesach. Mae’r newid tymor yn gyfle perffaith i orffen y prosiectau bach yn y tŷ a’r ardd a gafodd eu gohirio dros fisoedd y gaeaf.

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr bod y tymor llosgi glaswelltiroedd dan reolaeth ar fin gorffen, a bod gofyn cyfreithiol iddyn nhw gwblhau cynllun rheoli llosgi, sydd ar gael o Wefan Llywodraeth Cymru, cyn mynd ati i losgi.





Doeth i Danau Gwyllt



Dylai pawb fod yn ymwybodol bod y risg o danau gwyllt a thanau glaswelltir yn cynyddu yr adeg hon o’r flwyddyn. Y ffordd orau o amddiffyn yn erbyn colled, difrod neu anaf o ganlyniad i danau gwyllt a thanau glaswelltir yw drwy eu hatal. Dylai pobl ymddwyn yn gyfrifol, yn ddiogel, a dilyn y cod cefn gwlad bob amser.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Tanau Gwyllt Cymru
Lleihau llosgi bwriadol
Tanau gwyllt / Tanau agored



Larymau Mwg



Wrth i ni wynebu’r gwanwyn, mae’n hanfodol bwysig gwneud yn siŵr bod larymau mwg yn gweithio’n iawn. Gyda thywydd cynhesach daw mwy o risg o danau oherwydd sawl ffactor. Gall larymau mwg sy’n gweithio roi rhybudd o dân yn gynnar, sy’n hanfodol er mwyn rhoi amser gwerthfawr i chi a’ch anwyliaid ddianc i le diogel.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Profi Larymau Mwg
Diogelwch Carbon Monocsid





Llwybrau Dianc



Mae cael llwybrau dianc clir os bydd tân yn hanfodol er mwyn eich diogelu chi a’ch teulu. Gall datblygu cynllun dianc rhag tân a’i ymarfer yn rheolaidd olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw os oes argyfwng tân.

Y ffordd orau o ddianc o’ch eiddo yw trwy ddefnyddio’r llwybrau arferol - mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod yr holl landins, grisiau a choridorau sy’n arwain at y drws ffrynt a’r drws cefn yn glir rhag unrhyw beth a fyddai’n eich arafu, neu’n eich baglu petaech yn ceisio mynd allan ar frys.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Diogelu eich cartref
Diogelwch Myfyrwyr



Diogelwch Beiciau Modur



Wrth i’r tywydd gynhesu ar ddechrau’r gwanwyn, efallai y bydd llawer o yrwyr beiciau modur yn awyddus i fynd allan ar y lôn i fwynhau’r awyr iach ar reidiau cyntaf y flwyddyn. Fodd bynnag, gyda thros 22% o farwolaethau ffyrdd yng Nghymru yn ymwneud â beicwyr modur, mae angen i ni leihau’r ffigurau hyn er mwyn atal damweiniau angheuol ac anafiadau difrifol i feicwyr modur a’u teithwyr.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

Beicwyr modur





Diogelwch ar y Ffyrdd



Mae’r gwanwyn ar droed a’r tywydd yn cynhesu, a chyda mwy o bobl yn mentro allan i’r awyr agored, mae’r risg o ddamweiniau ffordd yn dueddol o gynyddu. Mae’n hanfodol bod yn wyliadwrus ac yn ofalus wrth yrru, oherwydd does dim dal ar dywydd y gwanwyn – cawodydd glaw, niwl, a haul isel sy’n gallu eich dallu. Gall pawb gyfrannu at wanwyn mwy diogel ar y ffyrdd trwy sicrhau bod eich cerbyd mewn cyflwr da, rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ar y ffyrdd a bod yn fwy gwyliadwrus nag erioed wrth y llyw.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Diogelwch ar y Ffordd
Ymgyrch Ugain



Diogelwch Dŵr



Gyda’r addewid o dywydd cynhesach a’r tymor gwyliau arferol, gwyddom fod llawer ohonom yn cael ein denu i nofio mewn dŵr agored neu i roi cynnig ar chwaraeon dŵr am y tro cyntaf. Dilynwch ein hawgrymiadau diogelwch syml er mwyn bod yn ddiogel yn y dŵr ac yn agos ato y gwanwyn hwn.

Nofio dŵr agored
Neidio i’r dŵr
Alcohol a pheryglon dŵr





Cefn Gwlad



Mae rhai o olygfeydd prydferthaf a mwyaf amrywiol Cymru yng nghanolbarth a gorllewin y wlad. Hoffem eich help chi i’w chadw felly! Mae tywydd cynhesach a’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â chefn gwlad yn creu mwy o risg o danau. Pan fyddwch chi’n mynd am dro, dilynwch ein canllawiau syml er mwyn eich gwarchod chi a chefn gwlad Cymru.

Cerdded yng nghefn gwlad
Tanau gwyllt / Tanau agored