Datrys problemau
Mae’r larymau a ddarperir gan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys batri 10 mlynedd, ac, ar ddiwedd ei oes, bydd y larwm yn seinio unwaith bob munud am o leiaf fis.
O ran unrhyw arwyddion eraill o nam, dylech gyfeirio at gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd a ddaeth gyda’r larwm.
Os oes nam ar larwm sydd wedi’i gysylltu â’r prif gyflenwad trydan, yna cysylltwch â thrydanwr neu eich landlord os ydych yn rhentu eich eiddo.