Ewch i'n e-lyfrgell ar-lein i weld ein Llenyddiaeth Diogelwch Cymunedol.
Datblygwyd yr wybodaeth isod ar gyfer pobl sydd ag anawsterau gyda’u golwg, eu clyw a’u symudedd, a’r rhai hynny sy’n gofalu amdanynt. Mae’n rhoi cyngor a chynghorion ymarferol a fydd yn helpu i’ch diogelu chi rhag peryglon tân.
- Os os nam ar eich clyw, medrwch gael larwm mwg sy’n defnyddio golau strôb a phadiau dirgrynol.
- Os oes tân yn amlygu, ac os yw’n anodd i chi alw 999 eich hun, gofynnwch i gymydog i wneud hynny i chi.
- Os oes gennych offer arbenigol, megis ffôn destun neu finicom, medrwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 18000.
- Gosodwch sticer lliw ar eich larwm mwg os ydych yn cael trafferth ei weld i’w brofi, neu gofynnwch i’ch Gwasanaeth Tân lleol a fedran nhw ddarparu un ar eich cyfer.
- Archwiliwch lidiau trydan yn rheolaidd trwy eu cyffwrdd. Os ydynt wedi treulio neu os ydynt yn ddiffygiol, peidiwch â’u plygio i mewn na’u troi ymlaen. Os oes arogl llosgi’n amlygu pan fod offer trydanol ymlaen, diffoddwch yr offer a thynnwch y plwg ar unwaith.
- Os yw’n anodd i chi brofi eich larwm, yna gofynnwch i rywun arall i’w brofi i chi.
- Os ydych yn cael trafferth symud o gwmpas, ystyriwch osod intercom, a fydd yn eich galluogi i rybuddio rhywun arall yn y tŷ os oes argyfwng.
- Gofalwch bod gennych fynediad hawdd at unrhyw gymhorthion symudedd sydd eu hangen arnoch, megis ffon.
Anosmia yw colli'r synnwyr i arogli, a gall effeithio ar bobl dros dro neu gall fod yn gyflwr parhaol.
Gall pobl sy'n byw ag anosmia wynebu problemau wrth goginio gan na allant ddweud a yw bwyd yn llosgi ai peidio.
Byddant hefyd yn cael anhawster dweud a oes nwy gollwng neu a oes rhywbeth ar dân yn eu cartref.
Mae'n hanfodol bwysig bod gan bobl sy'n byw ag anosmia larymau mwg sy'n gweithio yn eu cartref i roi iddynt y rhybudd cynharaf o dân.
Un o symptomau'r feirws COVID-19 yw colli'r synhwyrau i flasu ac arogli, felly bydd y cyflwr hwn yn effeithio ar gyfran fwy o'r cyhoedd ar hyn o bryd.
Mynediad at 999 i bobl fyddar, y trwm eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd
Mae cannoedd o filoedd o bobl fyddar, y trwm eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd yn y DU, ac mae’r nam ar eu clyw neu eu lleferydd yn eu rhwystro rhag defnyddio teleffoni llais i gysylltu â’r gwasanaethau brys.
Mae Cyfnewid Testun yn wasanaeth a ddarperir gan BT, sy’n galluogi pobl fyddar, pobl fyddar a dall, y trwm eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd i ddefnyddio ffonau testun, i ffonio ac i dderbyn galwadau oddi wrth bobl sy’n medru clywed. Ariennir Cyfnewid Testun gan Ddarparwyr Cyfathrebu’r DU, gyda’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNID) yn rheoli’r cynorthwywyr cyfnewid, sy’n trosi’r llais i destun.
Gall defnyddiwr ffôn destun neu TalkByText gysylltu â’r gwasanaethau brys trwy ddeialu '18000'. Bydd yr alwad hon yn cael ei chysylltu i’r gwasanaethau 999 a’i throsi gan Gynorthwy-ydd Cyfnewid Testun. I gael mwy o wybodaeth am ffonau testun a’r gwasanaeth cyfnewid testun, ewch i safle we Relay UK (agor yn ffenest/tab newydd)
Y Gwasanaeth Negeseuon Testun Brys Cenedlaethol (eSMS)
Mae’r Gwasanaeth Negeseuon Testun Brys Cenedlaethol yn ychwanegiad at y gwasanaeth 18000 presennol sydd ar gael yn y DU.
Mae’n gynllun cenedlaethol, sy’n galluogi unrhyw un nad sy’n medru defnyddio teleffoni llais, i anfon neges destun i 999 gan ddefnyddio eu ffonau symudol, sy’n cael ei throsi i mewn i alwad i’r gwasanaethau brys.
Mae’n cymryd ychydig funudau’n unig i gofrestru, a’r cyfan sydd angen ei wneud yw anfon neges destun, yn cynnwys y gair 'register' i 999 ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau a dderbynnir.
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth a sut i gofrestru, ewch i safle we Next Generation Text Service.
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699