Mynd ar wyliau?



Os ydych wedi trefnu gwyliau neu'n bwriadu treulio peth amser i ffwrdd o'ch cartref, gan ei adael yn wag, gallai fod yna risg uwch y bydd lladron yn targedu eich tŷ. Dyma awgrymiadau defnyddiol a chyngor ar ddiogelwch y gallwch eu dilyn i wneud eich cartref yn llai deniadol i ladron pan fyddwch i ffwrdd.



Rhestr Wirio - Diogelwch Rhag Tân

Os ydych ar eich gwyliau, rydych am allu ymlacio a pheidio â phoeni am eich cartref. Bydd llunio rhestr wirio cyn i chi fynd i ffwrdd yn rhoi tawelwch meddwl i chi y bydd yna lai o risg o dân yn eich cartref.

  • Diffoddwch bob cyfarpar nwy nad oes angen iddo fod ymlaen tra byddwch i ffwrdd.
  • Diffoddwch yr holl ddyfeisiau trydan nad oes eu hangen tra byddwch i ffwrdd, a datgysylltwch y plygiau o'r socedi.
  • Diffoddwch y dŵr trwy atal y prif gyflenwad. Gall dŵr sy'n gollwng o bibellau greu difrod i wifrau trydanol ac achosi tân.
  • Caewch bob drws mewnol – bydd unrhyw dân a fydd yn digwydd yn cael ei gyfyngu yn well ac yn achosi llai o ddifrod i'ch cartref.
  • Sicrhewch fod gennych larymau mwg sy'n gweithio – bydd hyn yn rhybuddio'r cymdogion os bydd tân yn cynnau tra byddwch i ffwrdd.




Diogelwch yn y Cartref



Ymhlith y dulliau a ddefnyddir i dorri i mewn i adeiladau y mae torri drysau gwan neu agor cloeon diffygiol trwy rym. Sicrhewch fod gennych ddrysau cadarn a chloeon diogel.

Mae ffenestri agored yn ei gwneud yn hawdd iawn i dresmaswyr gael mynediad i'ch cartref, felly sicrhewch fod popeth ynghau yn dynn cyn i chi adael.

Os oes gennych system larymau, sicrhewch ei bod wedi ei throi ymlaen cyn i chi adael.

Mae llawer o droseddwyr yn monitro'r cyfryngau cymdeithasol, a byddant yn chwilio am bostiadau yn ymwneud â'ch gwyliau a allai olygu bod eich cartref yn wag. Mwynhewch eich amser i ffwrdd a chadwch eich postiadau nes i chi ddychwelyd.

Bydd lladron sy'n bachu ar gyfleoedd yn chwilio am arwyddion bod tŷ yn wag, felly bydd defnyddio amseryddion i droi'r goleuadau ymlaen, a chadw'r llenni yn eu safle arferol yn ffyrdd da o gadw eich cartref ychydig yn fwy diogel.

Gall stryd dywyll wneud i gartref ymddangos yn fwy deniadol i ladron. Os ydych yn cael problemau gyda'r goleuadau stryd yn eich ardal, sicrhewch fod yr awdurdodau lleol yn gwybod amdanynt fel y gellir eu trwsio mewn da bryd.

Gall hyd yn oed sŵn cefndir cymedrol atal rhywun sy'n chwilio am adeilad i dorri i mewn iddo. Mae gadael y radio ymlaen â'r sain yn isel yn syniad da i'w hatal.

Os bydd y peth gwaethaf yn digwydd, mae'n hanfodol eich bod yn gwybod bod eich yswiriant cartref yn eich amddiffyn. Mae rhai polisïau yn cyfyngu ar nifer y diwrnodau y gallwch adael eich cartref yn wag a dal i allu hawlio.

Os oes gennych gymydog yr ydych yn ymddiried ynddo, gofynnwch iddo gadw llygad ar eich eiddo. Efallai y gallech ofyn iddo barcio o flaen eich tŷ yn achlysurol hyd yn oed, i roi'r argraff bod rhywun gartref. 

Sicrhewch eich bod yn canslo nwyddau sy'n cael eu danfon, megis llaeth, papurau newydd, neu flychau llysiau, ac ati.

Bydd lladron yn aml yn ystyried llythyrau wedi'u pentyrru wrth y drws yn arwydd bod pobl i ffwrdd. Gofynnwch i gymydog yr ydych yn ymddiried ynddo symud eich post, neu gofynnwch i'r Post Brenhinol gadw eich llythyrau nes i chi ddychwelyd trwy'r Gwasanaeth Keepsafe (yn agor yn ffenest/tab newydd).

Sicrhewch fod eitemau gwerthfawr megis allweddi ceir a gliniaduron yn cael eu rhoi o olwg unrhyw un sy'n edrych trwy eich ffenestri.