E-feiciau ac e-sgwteri – diogelwch tân



Mae e-feiciau ac e-sgwteri yn fwyfwy poblogaidd y dyddiau hyn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn rhedeg ar fatris lithiwm-ion y gellir eu gwefru gartref. Mae hi’n fwyfwy cyffredin bellach i’r batris hyn gael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion ar gyfer y cartref.



Wrth wefru e-feiciau ac e-sgwteri, mae hi’n bwysig ichi wneud hynny mewn modd diogel er mwyn osgoi perygl tân ac osgoi rhoi eich teuluoedd a’ch cartrefi mewn perygl.





Gan fod yr arfer o ddefnyddio e-feiciau ac e-sgwteri yn cynyddu, mae pryderon diogelwch tân sy’n gysylltiedig â’u gwefru a’u storio ar gynnydd hefyd. Disgwylir y bydd yr arfer o ddefnyddio’r eitemau hyn yn parhau i gynyddu. Mae rhai gwasanaethau tân ac ymchwilwyr tân wedi gweld cynnydd mewn tanau a ddechreuwyd gan fatris e-feiciau ac e-sgwteri.

Ar hyn o bryd, cyfyngedig yw’r data ynglŷn ag union nifer y tanau. Yn 2019, yn ôl Brigâd Dân Llundain fe achosodd e-feiciau ac e-sgwteri 8 o danau. Erbyn 2020, roedd y nifer wedi codi i ddau ddeg pedwar, gan gyrraedd pum deg naw erbyn Rhagfyr 2021.

Ar brydiau, gall batris achosi problemau mawr, gallant ‘ffrwydro’ a/neu beri i dân ddatblygu’n sydyn.

Gall gwaredu batris lithiwm-ion yn amhriodol mewn gwastraff ailgylchu a gwastraff cartrefi cyffredinol arwain at danau gwastraff mawr. Felly, mae hi’n bwysig ceisio atal hyn trwy ledaenu’r negeseuon priodol er mwyn cynorthwyo i ddiogelu staff y Gwasanaeth Tân ac Achub a staff gweithredol fel ei gilydd.



Negeseuon allweddol



Gall y negeseuon canlynol fod yn ddefnyddiol o ran cyfathrebu’r perygl a lleihau perygl tân i’r cyhoedd:



  • Wrth wefru, dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr a chofiwch ddatgysylltu plwg eich teclyn gwefru bob amser ar ôl ichi orffen ei ddefnyddio.
  • Gwnewch yn siŵr bod larymau mwg eich cartref yn gweithio. Os ydych yn gwefru neu’n storio eich e-feic neu eich e-sgwter yn y garej neu’r gegin, gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod larwm – argymhellwn larymau gwres yn hytrach na larymau mwg yn y mannau hyn.
  • Gwefrwch y batris tra byddwch yn effro er mwyn ichi allu ymateb yn ddi-oed pe bai tân yn digwydd. Peidiwch â gadael batris i wefru tra byddwch yn cysgu neu pan na fyddwch gartref.
  • Cofiwch ddefnyddio teclyn gwefru cymeradwy’r gweithgynhyrchwr bob amser; ac os gwelwch arwyddion traul neu ddifrod, prynwch declyn gwefru swyddogol arall gan werthwr dibynadwy.
  • Pan fyddwch yn gwefru, peidiwch â gorchuddio teclynnau gwefru na batris oherwydd gallai hynny beri iddynt orboethi neu achosi tân hyd yn oed.
  • Peidiwch â gwefru batris na storio eich e-feic neu eich e-sgwter wrth ymyl deunyddiau llosgadwy neu fflamadwy.
  • Peidiwch â gwefru gormod ar eich batri – darllenwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr i weld am faint o amser y dylid gwefru’r batri.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi na defnyddio ceblau ymestyn amhriodol (defnyddiwch geblau ymestyn wedi’u dadrolio a gwnewch yn siŵr bod y cebl yn addas ar gyfer y pethau a gaiff eu plygio ynddo).
  • Pe bai e-feic, e-sgwter neu fatri lithiwm-ion yn cynnau tân – peidiwch â cheisio diffodd y tân. Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999.

  • Peidiwch â storio na gwefru e-feiciau ac e-sgwteri ar lwybrau dianc neu mewn mannau cymunol oddi mewn i adeiladau â llawer o bobl yn byw ynddynt. Pe bai tân yn digwydd, gallai hynny effeithio ar allu pobl i ddianc.
  • Dylai Unigolion Cyfrifol ystyried y risgiau sy’n perthyn i e-feiciau ac e-sgwteri pan gânt eu gwefru neu eu gadael mewn ardaloedd cyffredin – dylent ystyried llwybrau dianc, storfeydd beiciau ac ystafelloedd gwefru sgwteri symudedd. Efallai y gallent ystyried rhoi cyngor i’r preswylwyr ynglŷn â sut i ddefnyddio’r eitemau hyn yn ddiogel, sut i’w storio a sut i’w gwefru.
  • Storiwch e-feiciau ac e-sgwteri a’u batris mewn mannau lled oer. Peidiwch â’u storio mewn mannau rhy boeth na rhy oer.
  • Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr ar gyfer storio a chynnal-a-chadw batris lithiwm-ion os na fyddant yn cael eu defnyddio am gyfnodau estynedig.

  • Prynwch e-feiciau, e-sgwteri, teclynnau gwefru a batris gan fanwerthwyr dibynadwy.
  • Nwyddau trydanol ffug sy’n gyfrifol am achosi llawer o’r tanau. Gall eitemau nad ydynt yn bodloni safonau Prydeinig neu Ewropeaidd arwain at berygl tân enfawr. Er y bydd teclynnau gwefru (neu fatris) dilys yn costio mwy i’w prynu o bosibl, mae hi’n werth prynu rhai go iawn yn hytrach na rhai ffug – mae eich iechyd a’ch cartref yn bwysicach nag arbed ychydig bunnoedd.
  • Os byddwch yn prynu pecyn addasu e-feic, prynwch un gan werthwr dibynadwy a gwnewch yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â safonau Prydeinig neu Ewropeaidd. Byddwch yn arbennig o ofalus os byddwch yn prynu mewn arwerthiant ar-lein neu ar blatfformau ar-lein. Hefyd, os byddwch yn prynu’r cydrannau ar wahân, dylech wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’i gilydd.
  • Cofrestrwch eich eitem gyda’r gweithgynhyrchwr fel y gellir rhoi unrhyw warantiadau ar waith – fel arfer, caiff batris eu cynnwys mewn gwarantiadau. Trwy gofrestru eich eitem, fe fydd hi’n haws i’r gweithgynhyrchwr gysylltu â chi pe bai angen dosbarthu gwybodaeth am ddiogelwch neu alw’r eitem yn ôl.
  • Gwiriwch nad yw’r eitemau a brynwyd gennych wedi cael eu galw’n ôl. Gallwch wneud hyn trwy edrych ar wefan Electrical Safety First neu ar wefan y llywodraeth.

  • Pe baech yn gollwng y batri neu’n cael gwrthdrawiad gyda’r e-feic neu’r e-sgwter, gallwch wneud difrod i’r batri. Os bydd difrod wedi dod i ran y batri, gall orboethi a chynnau tân yn ddirybudd. Archwiliwch eich batri’n rheolaidd i chwilio am unrhyw arwydd o ddifrod. Os credwch fod rhyw ddifrod wedi dod i’w ran, dylech gael batri arall – ni ddylech ei ddefnyddio na’i wefru.
  • Os byddwch angen cael gwared â batri sydd wedi cael difrod neu sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes, peidiwch â’i waredu gyda gwastraff eich cartref na’i ailgylchu yn y dull arferol. Pan gaiff y batris hyn eu tyllu neu eu gwasgu, gallant achosi tanau mewn lorïau bin a chanolfannau ailgylchu a gwastraff. Efallai y bydd gweithgynhyrchwr eich e-feic neu eich e-sgwter yn cynnig gwasanaeth ailgylchu. Fel arall, holwch eich awdurdod lleol i weld pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer ailgylchu batris yn eich ardal.


Mwynhewch eich e-feic a’ch e-sgwter a defnyddiwch nhw’n ddiogel, gan sicrhau eich bod yn defnyddio’r eitemau hyn o fewn y gyfraith.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio e-feiciau ac e-sgwteri’n ddiogel, edrychwch ar: E-feiciau  E-sgwteri

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i drefnu Ymweliad Diogel ac Iach, edrychwch ar Ymweliadau Diogel ac Iach – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk) neu ffoniwch ni ar 0800 169 1234.