Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn annog pobl i beidio â defnyddio canhwyllau. Fodd bynnag, rydym yn deall y bydd llawer o bobl am eu defnyddio am amryw o resymau gwahanol, boed hynny'n rhan o ddathliad crefyddol neu dymhorol, neu i greu arogl da yn y cartref.

Os ydych chi'n mynd i ddefnyddio cannwyll neu losgwr olew, dilynwch ein rhestr isod i sicrhau eich bod yn eu defnyddio yn y ffordd fwyaf diogel posibl.

Gallwch ofyn am ymweliad Diogel ac Iach di-dâl trwy gysylltu â'ch gwasanaeth tân ac achub lleol neu ffonio 0800 169 1234.