Achosir llawer o danau damweiniol mewn tai gan namau trydan, fel socedi wedi'u gorlwytho ac offer trydanol diffygiol.

Ystyrir bod ffonau symudol yn offer hanfodol bwysig y dyddiau hyn. Ond a wyddoch chi am y peryglon sy'n gysylltiedig â gwefryddion ffug ar gyfer ffonau symudol?

Bob blwyddyn, mae 1.8 miliwn o wefryddion yn cael eu prynu ar-lein yn y Deyrnas Unedig gan berchnogion ffonau symudol sy'n chwilio am fargen.

Er bod gwefryddion answyddogol wedi'u mewnforio yn gallu bod yn llawer rhatach i'w prynu, mae gwefryddion ffug ar gyfer ffonau symudol yn aml yn cynnwys cydrannau o ansawdd gwael nad ydynt yn bodloni rheolau diogelwch y Deyrnas Unedig. Ystyr hyn yw y gallant achosi anafiadau, siociau trydan, a thanau hyd yn oed.

I gael cyngor penodol ynghylch pwysigrwydd defnyddio'r gwefryddion cywir ar gyfer ffonau symudol iPhone, Blackberry, Samsung, Nokia, HTC, Motorola, LG a Sony, ewch i wefan Electrical Safety First

Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Gofalu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer pob dyfais drydanol a'ch bod yn defnyddio'r gwefryddion cywir yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. Os defnyddir y gwefrydd anghywir ar gyfer dyfais drydanol, ni fydd y batri mewnol yn gallu dygymod â'r foltedd gwahanol a gall fynd ar dân.
  • Rhoi'r gorau i ddefnyddio gwefrydd os ydych yn amau ei fod yn ddiffygiol neu'n un ffug.
  • Peidio â defnyddio gwefrydd os oes rhaid defnyddio grym i’w wthio i mewn i'r soced yn y wal, a pheidio â'i ddefnyddio mewn cebl estyn.
  • Dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ynghylch pa mor hir y dylid gwefru cynnyrch.
  • Prynu o siop rydych chi'n ei hadnabod ac yn ymddiried ynddi bob tro, prynu gan adwerthwr cymeradwy neu brynu'n uniongyrchol gan y gwneuthurwr sydd â'r un enw â'r ddyfais.
  • Gallai gwefryddion ffôn wedi'u plygio i mewn a'u gadael dros nos ordwymo ac achosi tanau.

Mae rhoi ffonau symudol i wefru ar ben llenni a deunyddiau, neu orchuddio ffôn sy'n gwefru yn risgiau tân penodol - PEIDIWCH Â RHOI FFÔN SYMUDOL SY'N GWEFRU O DAN EICH GOBENNYDD GYDA'R NOS - bydd y gobennydd yn atal aer rhag cylchdroi o gwmpas eich batri a’i gadw'n oer, gall y gwres sy'n datblygu ddifrodi eich batri ac achosi iddo fynd ar dân.

  • Peidiwch byth â gadael e-sigaréts yn gwefru am gyfnodau maith heb neb yn cadw llygad arnynt
  • Peidiwch â chymysgu cydrannau o e-sigaréts gwahanol
  • Defnyddiwch y gwefrydd a ddarparwyd yn unig
  • Gofalwch brynu eich e-sigarét o ffynhonnell ddibynadwy
  • Gwiriwch fod nod ardystio CE ar yr e-sigarét
  • Profwch eich larwm mwg yn rheolaidd
  • Cysylltwch â Safonau Masnach ag unrhyw bryderon am ddiogelwch e-sigaréts
Gwefru e-sigaréts yn ddiogel 
  • Defnyddiwch y gwefrydd cywir a dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bob amser
  • Peidiwch byth â gwefru batri sydd wedi cael ei ddifrodi, ei ollwng neu wedi cael ergyd
  • Peidiwch byth â phlygio gwefrydd i mewn i newidydd prif gyflenwad anghymeradwy
  • Gwiriwch fod eich batri wedi'i amddiffyn rhag gorwefru neu ordwymo
  • Peidiwch â gorwefru. Tynnwch y batri o'r gwefrydd pan fydd yn llawn
  • Peidiwch byth â gadael batri'n gwefru heb neb yn cadw golwg arno
  • Peidiwch â'i ddefnyddio os yw'n wlyb
  • Peidiwch â gordynhau'r atomeiddiwr wrth ei gysylltu â'r gwefrydd
  • Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser wrth ddefnyddio eich blanced. Bydd hyn yn eich helpu i’w defnyddio a’i storio’n ddiogel, a bydd yn ymestyn oes eich blanced. Storiwch eich blanced yn wastad, nid wedi ei rholio, a pheidiwch â storio gwrthrychau eraill ar ei phen.
  • Dylid newid blancedi trydan bob 10 mlynedd a’u profi pob 2 flynedd. Holwch eich swyddfa Age Concern lleol, i weld a oes unrhyw un yn profi blancedi yn eich ardal.
  • Archwiliwch eich blanced am farciau llosg, difrod dŵr, llwydni neu wifrau noeth. Os welwch chi unrhyw un o’r rhain ar eich blanced yna peidiwch â’i defnyddio, newidiwch hi.
  • Peidiwch byth â defnyddio potel dŵr poeth nac yfed hylifau yn y gwely pan fod eich blanced drydan ynghlwm. Os fyddwch yn sarnu eich diod neu fod y botel dŵr poeth yn gollwng, fe fyddwch yn cymysgu dŵr a thrydan.
Arwyddion Perygl – am beth ddylech chi chwilio
  • Plygiau neu socedi sy’n teimlo’n boeth
  • Plygiau neu socedi gyda marciau llosg
  • Ffiwsiau sy’n chwythu heb reswm
  • Goleuadau’n fflachio
  • Peidiwch â chymryd siawns gyda thrydan.  Os oes gennych bryderon, siaradwch â thrydanwr
Cyfrifiannell Gorlwytho Soced

Rhan fwyaf o bobl lidiau estyn yn eu cartrefi, gan ddefnyddio addaswyr bar 4-ffordd i gynyddu nifer y peiriannau y gallant gau'r i mewn i soced wal.

Fodd bynnag, er bod lle i dopio mewn pedwar offer, nid yw hyn yn golygu ei fod bob amser yn ddiogel i wneud hynny. Offer trydanol gwahanol yn defnyddio meintiau gwahanol o bŵer. Er mwyn osgoi'r risg o dân gorboethi ac, o bosibl, ni ddylech fyth blygio i mewn i estyniad offer arweiniol neu soced sydd gyda'i gilydd yn defnyddio mwy na 13 amp neu 3000 watt o ynni.

Defnyddiwch ein cyfrifiannell i blygio mewn rhai offer cartref nodweddiadol i weld yr effaith ar y llwyth, ac i gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i osgoi gorlwytho eich socedi.

Daeth y Cyfrifiannell Soced atoch gan Safety Electrical First.

Am mwy o wybodaeth diogelwch ewch i http://www.electricalsafetyfirst.org.uk