Mae damweiniau'n digwydd yn fwyaf aml o ganlyniad i nwy sy'n gollwng pan fydd pobl yn rhoi'r gwresogyddion at ei gilydd neu'n newid cetris neu silindrau nwy. Nwy Petrolewm Hylifedig (LPG) yw biwtan neu bropan sy'n cael ei storio ar ffurf hylif o dan bwysau. Gall twll bach gynhyrchu llawer iawn o nwy tra fflamadwy. Mae'r nwy yn drymach nag aer ac felly mae'n cronni'n agos i'r llawr neu'r ddaear a gall danio gryn bellter o'i ffynhonnell. Os caiff nwy sy'n dianc ei danio mewn ystafell neu fan arall, gall fod tân a ffrwydrad.
Bob blwyddyn, mae mwy na 100 o bobl yn marw ac anafir bron i 1,000 o bobl o ganlyniad i danau a achosir gan wresogyddion. Mae gan wresogyddion symudol ran mewn llawer o'r tanau hyn. Mae'r adran hon yn rhoi cyngor ynghylch offer symudol; mae llawer o'r egwyddorion hefyd yn berthnasol i offer a osodwyd yn barhaol.
Gall pob math o wresogyddion symudol gynnau tân os cânt eu camddefnyddio. Gofalwch eich bod yn darllen ac yn deall cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr cyn defnyddio gwresogydd.