Diogelwch wrth Goginio



Mae mwy na hanner y tanau damweiniol yn y cartref yn cychwyn wrth goginio. Mae llawer o danau yn y gegin yn digwydd pan nad yw pobl yn canolbwyntio neu pan nad ydynt yn cadw llygad ar bethau. Medrwch ddarganfod sut i gadw’n ddiogel wrth goginio, a beth i’w wneud os oes tân yn amlygu yn eich cegin, trwy lawrlwytho ein llyfryn Coginio’n Ddiogel!





Coginio mewn modd diogel

  • Gofalwch nad yw dolenni eich sosbenni yn ymestyn allan dros yr ochr – fel na fyddant yn cael eu bwrw oddi ar y stôf
  • Byddwch yn ofalus os ydych yn gwisgo dillad llac – gallant fynd ar dân yn hawdd
  • Os bydd eich dillad yn mynd ar dân cofiwch y camau stopio, disgyn a rholio
    • Stopiwch yr hyn yr ydych yn ei wneud
    • Disgynnwch i'r ddaear
    • Rholiwch i fygu'r fflamau
  • Cadwch gadachau a llieiniau yn ddigon pell oddi wrth y ffwrn a'r hob
  • Sicrhewch fod y ffwrn wedi'i ddiffodd pan fyddwch wedi gorffen coginio
  • Peidiwch â gadael plant yn y gegin ar eu pen eu hunain pan fyddwch yn coginio ar yr hob
  • Cymerwch ofal os bydd angen i chi adael y gegin ar ganol coginio, i osgoi unrhyw risg, tynnwch sosbenni oddi ar y gwres neu trowch y gwres i lawr
  • Cadwch y ffwrn, yr hob a'r gril yn lân ac mewn cyflwr da.  Gall crynhoad o fraster a saim ddechrau tân
  • Defnyddiwch danwyr nwy diogel i gynnau ffwrn nwy – maent yn llawer mwy diogel na matsys neu danwyr traddodiadol, gan nad oes ganddynt fflam noeth. Maent yn fwy diogel o amgylch plant hefyd.
  • Gwiriwch fod tostwyr yn lân ac nad ydynt wedi'u gosod o dan gabinetau’r gegin nac yn agos at unrhyw beth a all fynd ar dân.
  • Peidiwch byth â rhoi unrhyw beth metel yn y ffwrn ficrodon.
  • Ceisiwch osgoi coginio os ydych wedi blino’n lân, wedi bod yn yfed alcohol, neu’n cymryd meddyginiaeth a all eich gwneud yn gysglyd.

Ffrio mewn braster dwfn

  • Byddwch yn ofalus iawn wrth ffrio gydag olew poeth – mae'n cynnau'n rhwydd.
  • Peidiwch byth â gadael i'r braster neu'r olew lenwi mwy na thraean y badell.
  • Sicrhewch fod y bwyd yn sych cyn ei roi mewn olew poeth fel nad yw'n tasgu.
  • Os bydd yr olew yn dechrau cynhyrchu mwg – mae'n rhy boeth.  Diffoddwch y gwres a gadewch iddo oeri.
  • Defnyddiwch beiriant ffrio dwfn trydan a reolir gan thermostat.  Ni allant orboethi.

Yr hyn i'w wneud os bydd padell yn mynd ar dân 

  • Peidiwch â chymryd unrhyw risgiau.  Diffoddwch y gwres os yw'n ddiogel i chi wneud hynny.  Peidiwch byth â thaflu dŵr drosti.
  • Peidiwch â mynd i'r afael â'r tân eich hun – Ewch Allan, Arhoswch Allan, Ffoniwch 999.

Offer trydanol eich cegin

  • Mae eitemau trydanol hanfodol megis eich oergell a’ch rhewgell wedi’u bwriadu i gael eu gadael ymlaen 24/7 i storio bwyd ar y tymheredd cywir
  • Nid yw peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad a pheiriannau golchi llestri wedi'u bwriadu i'w gadael ymlaen dros nos neu pan fyddwch allan o'r tŷ. Byddwch yn gallu gosod amserydd ar rai, ond bydd gadael offer ymlaen pan na allwch eu monitro yn creu risg i'ch cegin.
  • Ni ddylai offer ar unedau gwaith y gegin, megis eich tostiwr a'ch tegell, byth gael eu gosod yn agos at unrhyw beth a allai fynd ar dân, e.e. llenni, papur cegin, neu'n rhy agos at gwpwrdd uwchben.
  • Dylech bob amser ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth ddefnyddio eich offer.