Diogelwch Tân mewn Fflatiau Uchel​​



Dyma ychydig o gyngor pwysig ar gyfer y rhai sy'n byw mewn eiddo yn codi uchel ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.


  • ​Os ydych yn byw mewn adeilad uchel, nid oes mwy o risg y bydd tân yn cynnau. Ein cyngor i bobl sy'n byw mewn adeiladau uchel/fflatiau pwrpasol neu fflatiau deulawr, ar wahân i gael larwm mwg sy'n gweithio, a chymryd rhagofalon diogelwch tân, yw sicrhau eich bod yn gwybod sut i ddianc a beth i'w wneud os bydd tân y tu mewn i'ch cartref, neu yn rhywle arall yn yr adeilad.
  • Peidiwch byth â chadw drysau'n agored trwy roi rhywbeth i bwyso yn eu herbyn. Mae drysau allanol eich cartref wedi'u dylunio'n arbennig i wrthsefyll tân ac atal mwg rhag lledu. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn, rhaid iddynt gael eu cadw ar gau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae hefyd yn syniad da cau eich drysau mewnol pan fyddwch yn mynd i'r gwely.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich llwybrau dianc, y tu mewn a'r tu allan i'ch fflat, yn glir rhag rhwystrau bob amser.
  • Ceisiwch wybod lle mae eich allweddi –- gallech golli amser hanfodol, sydd ei angen i ddianc, os oes rhaid i chi ruthro o gwmpas yn chwilio amdanynt.




Os bydd y larwm mwg yn seinio:

  • ​Peidiwch ag agor drysau yn chwilio am ffynhonnell y tân.
  • Rhybuddiwch bawb arall a gadewch y fflat, gan gau'r drws y tu ôl i chi.
  • Peidiwch â chasglu eiddo personol neu anifeiliaid anwes.
  • Peidiwch â defnyddio balconi i ddianc oni bai ei fod yn rhan o lwybr dianc swyddogol.
  • Pan fyddwch allan o'r adeilad, ffoniwch 999 – a chofiwch siarad yn glir a cheisio peidio â chynhyrfu.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad nes eich bod yn gwybod ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny.

Os bydd tân yn cynnau mewn mannau eraill yn yr adeilad:

  • ​Bydd fel arfer yn ddiogel i chi aros yn eich fflat eich hun. Agorwch ffenestr os bydd arnoch angen awyr iach, ac arhoswch wrth y ffenestr lle gallwch gael eich gweld. Os bydd y mwg yn effeithio ar eich fflat eich hun, gadewch ar unwaith, gan gau'r ffenestri a'r drysau y tu ôl i chi.
  • Os bydd yn rhaid i chi adael yr adeilad, defnyddiwch y grisiau bob amser – peidiwch byth â defnyddio'r lifft.
  • Os bydd yn rhaid i chi symud trwy fwg, cadwch mor agos â phosibl i'r llawr, lle bydd yr aer yn gliriach.

I gael gwiriad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim, ffoniwch ni ar 0800 169 1234

Os oes gennych bryder ynghylch diogelwch tân mewn adeilad uchel, cysylltwch â'n tîm Diogelwch Tân trwy ffonio 0370 6060699