Archwiliwr Diogelwch Tân yn y Cartref Ar-lein.
Mae'r archwiliad diogelwch tân yn y cartref hwn, sy’n hawdd ei ddilyn, wedi'i ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), ymgyrch Fire Kills a Safelincs. Bydd yn eich tywys chi o gwmpas eich cartref un ystafell ar y tro a bydd y cwestiynau syml yn eich helpu i ddod o hyd i risgiau tân wrth i chi fynd o gwmpas eich cartref.
Bydd yr archwiliwr yn cynnig awgrymiadau a chyngor ar y camau y gallwch eu cymryd i leihau’r risgiau hynny. Ar y diwedd, byddwch yn cael cynllun gweithredu diogelwch tân personol er mwyn helpu i’ch diogelu chi a'ch cartref rhag tân.
Mae cael o leiaf un larwm mwg gweithredol ar bob llawr yn y cartref a phrofi pob larwm yn rheolaidd yn parhau i fod yn un o negeseuon canolog yr ymgyrch. Mae ymgyrch Fire Kills hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, ac yn enwedig ymysg grwpiau bregus, o'r risgiau tân posibl a’r damweiniau cyffredin sy'n achosi’r rhan fwyaf o danau yn y cartref yn y DU.